2.2 Gwybyddoliaeth
Disodlwyd ymddygiadaeth gan wybyddoliaeth, i raddau helaeth, a daeth i amlygrwydd yn hwyr yn yr 20fed ganrif. Roedd y ddamcaniaeth hon yn canolbwyntio ar drefnu gwybodaeth, prosesu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau. Ausubel (1960) a Bruner (1966) oedd dau o brif hyrwyddwyr gwybyddoliaeth. Roedd Bruner yn credu y dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddarganfod y perthnasoedd sy’n rhan annatod o’r deunydd dysgu drostynt eu hunain, sef techneg addysgu y’i galwodd yn ‘sgaffaldio’. Mewn amgylchedd addysgu ar-lein, gallai hyn olygu bod yr athro/athrawes yn rhoi cymorth rheolaidd a phenodol i bob dysgwr yn gynnar yn y cwrs, ond yn ymyrryd i roi cymorth yn llai aml wrth i’r dysgwr ddechrau gweithredu’n llwyddiannus ar ei ben ei hun. Byddai gwaith Ausubel yn y maes hwn yn awgrymu ei bod yn well i’r athro/athrawes ddarparu rhywfaint o ddeunyddiau o flaen llaw, sy’n caniatáu i’r dysgwr ‘drefnu’ ei ddull dysgu cyn iddo gael at union ddeunyddiau’r cwrs, fel y bydd eisoes wedi datblygu llawer o’r sgiliau y bydd arno eu hangen i ymgymryd â’r cwrs yn llwyddiannus.