1.3 Recordiad fideo technoleg isel, cymhlethdod isel
Er y gall fod yn werthfawr defnyddio offer recordio fideo o ansawdd uchel i greu fideos caboledig mewn rhai amgylchiadau, ym maes dysgu ar-lein, mae cymhlethdod o’r lefel hon yn ddiangen yn aml ac fe all hefyd fod yn niweidiol i’r broses ddysgu.
Gweithgaredd 2 Y potensial ar gyfer defnyddiau cymhlethdod isel o fideo
Mae’r fideo hwn yn amlygu buddion ymagwedd technoleg isel, cymhlethdod isel at gynhyrchu cynnwys fideo wrth addysgu ar-lein:
Gwyliwch y fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a gwnewch nodiadau ynglŷn â pha mor gyflawnadwy ac effeithiol y gallai’r dull hwn fod wrth addysgu ar-lein eich hun.
Gadael sylw
Rydym eisiau cyfleu’r syniad nad oes angen i fideo fod yn ddull drud, uwch-dechnoleg. Lluniwyd y gweithgaredd hwn i ddangos pa mor rhwydd y gall fod i lawer o athrawon ei gyflawni, ac i’ch helpu i feddwl am sut y gallai fod yn ddefnyddiol wrth i chi addysgu ar-lein.
I ddangos sut gall fideos syml, technoleg isel fod yn effeithiol wrth addysgu ar-lein, gwnaed yr holl fideos ‘Myfyrdodau athrawon’ a ddefnyddir ym mhob wythnos o’r cwrs hwn gan y bobl sy’n siarad ym mhob un, gartref, gyda gwe-gamerâu neu gamerâu ffôn cyffredin. Rhoddwyd cyfres o ganllawiau i geisio gwneud i bob fideo edrych a theimlo’n debyg, ac rydym wedi ychwanegu’r teitlau ac addasu lefel y sain i fod yn gyson, ond dyna’r unig waith ychwanegol yr oedd ei angen i gynhyrchu’r fideos a welwch yma.
Awgrym da
Hyd yn oed wrth ddefnyddio dulliau technoleg isel o gynhyrchu fideo, gall rhai technegau wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd ac effeithiolrwydd eich clipiau. Cadwch y camera’n sefydlog (trwy ei osod ar arwyneb cadarn neu ddefnyddio trybedd, er enghraifft) a byddwch yn ymwybodol o elfennau a allai dynnu eich sylw yn y cefndir (fel sgriniau, pobl neu anifeiliaid anwes yn symud o gwmpas, neu hyd yn oed eitemau personol fel ffotograffau o’r teulu).