1.4 Trin delweddau
Gall delweddau gael eu defnyddio’n effeithiol iawn wrth ddysgu ar-lein – i ddangos cysyniad, darparu effaith emosiynol, atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd, neu ychwanegu addurn gweledol yn syml. Yn hytrach na chynnwys delweddau ar eu ffurf wreiddiol yn unig, ceisiwch ddefnyddio meddalwedd graffeg rad ac am ddim i drin ac anodi delweddau. Er enghraifft, gallai athro/athrawes newid un ddelwedd yn ddigidol a’i phostio ochr yn ochr â’r un wreiddiol, gan ofyn i’r dysgwyr ‘nodi’r gwahaniaethau’, neu gallai’r athro/athrawes guddio elfennau o’r ddelwedd a gofyn i’r myfyrwyr ragfynegi beth sydd wedi’i guddio (mae’r dull hwn yn gweithio’n arbennig o dda gyda hafaliadau mathemategol neu gemegol).
Awgrym da
Gwnewch yn siŵr fod cydraniad a maint ffeil eich delweddau’n briodol. Os yw’r cydraniad yn rhy isel, efallai na fydd y manylion yn ddigon clir, yn enwedig i fyfyrwyr sy’n defnyddio rhai mathau o sgriniau arddangos neu feddalwedd chwyddo. Ar y llaw arall, gall delweddau cydraniad uchel iawn olygu ffeiliau enfawr y bydd yn cymryd amser hir i unrhyw un sydd â chysylltiad arafach â’r rhyngrwyd eu lawrlwytho. Gellir gwirio maint ffeiliau trwy edrych ar ‘briodweddau’r’ ffeil yn rheolwr ffeiliau eich cyfrifiadur. Er bod pob math o feddalwedd yn wahanol, byddant fel arfer yn cynnwys opsiynau wrth arbed ffeil sy’n caniatáu ar gyfer newid y cydraniad neu’r ansawdd. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi disgrifiad o’r ddelwedd fel bod y myfyrwyr nad ydynt yn gallu ei gweld yn gallu deall beth sy’n cael ei dangos o hyd (byddwch yn dysgu mwy am wneud eich dysgu’n gynhwysol yn Wythnos 6).