3.1 Technolegau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo cymuned
Gellir defnyddio rhai adnoddau cyfryngau cymdeithasol i wella cyfathrebu a chydlyniant ymhlith eich grŵp o ddysgwyr ar-lein. Gall adnoddau ‘casglu’ fel Pinterest helpu’r dysgwyr i ddarganfod pwnc gyda’i gilydd a rhannu eu canfyddiadau neu eu syniadau. Gall adnoddau gosod nod tudalen cymdeithasol fel Diigo helpu i ehangu sgiliau ymchwil dysgwyr, gan eu cysylltu ag adnoddau nad oeddent wedi dod ar eu traws yn flaenorol. Wrth gwrs, ni fydd defnyddio’r technolegau iawn yn unig yn gorfodi ymdeimlad o gymuned a dysgu a rennir i ddatblygu mewn unrhyw garfan benodol, ond bydd yn rhoi cyfle i hynny ddigwydd. Os yw Facebook ar gael i holl aelodau eich carfan (mae wedi’i atal mewn rhai gwledydd), gall creu grŵp Facebook ar gyfer y dosbarth roi ffordd rwydd i’r dysgwyr gyfathrebu â’i gilydd, yn ogystal â rhoi cyfle i’r athro/athrawes eu hatgoffa’n brydlon am yr amserlen, a rhannu adnoddau perthnasol. Mae Coughlan a Perryman (2015) wedi ysgrifennu am ddefnyddio grwpiau Facebook a arweinir gan fyfyrwyr a’u rôl wrth hwyluso dysgu a chyflawni cynhwysiant addysgol.