1.5 Creu cysylltiadau
Gall rhwydweithio cymdeithasol ddileu llawer o’r rhwystrau rhag trafod gyda’r ‘arweinwyr blaenllaw’ yn eich maes. Os oes gennych gwestiwn i arbenigwr penodol y byddech wedi gallu cysylltu ag ef mewn cynhadledd wyneb yn wyneb yn unig, yn bennaf, dau ddegawd yn ôl, gallwch bellach ddefnyddio’ch rhwydweithiau i ofyn cwestiwn cyflym iddo ar Twitter, er enghraifft. Mae rhwydweithio cymdeithasol wedi gwneud byd addysg yn fwy hygyrch o lawer i’w aelodau nag erioed o’r blaen (Davis, 2011).
Gweithgaredd 1 Amlygu eich rolau presennol mewn rhwydweithiau
Cwblhewch y tabl canlynol. Pa rai o’r rhwydweithiau canlynol ydych chi eisoes yn cymryd rhan ynddynt? Y m mhob achos, ystyriwch y math o gyfranogiad sydd gennych ym mhob rhwydwaith. (Gall cyfranogiad a ddisgrifir fel cyfranogiad ‘anffurfiol’ fod yn unswydd, ar unrhyw bwnc, heb fod yn gysylltiedig â’ch ymarfer addysgu eich hun, weithiau; byddai cyfranogiad a ddisgrifir fel cyfranogiad ‘ffurfiol’ yn canolbwyntio ar wella’ch addysgu neu rannu adnoddau.)
Math o rwydwaith
|
Arsylwr (neu ‘lechwr’, sy’n darllen mewnbwn pobl eraill ond nad yw’n cyfrannu’n uniongyrchol) | Ymatebwr (sy’n ateb cwestiynau neu’n gwneud sylwadau ar drafodaethau) | Cyfrannwr testun (sy’n postio cwestiynau neu’n dechrau trafodaethau) | Cyfrannwr gwybodaeth (sy’n darparu gwybodaeth ffeithiol na chrëwyd gennych chi eich hun) | Rhannwr (sy’n cyfrannu eich deunydd eich hun i’w drafod neu ei ailddefnyddio) |
Cysylltiad ar-lein anffurfiol ag athrawon yn eich sefydliad rydych yn rhyngweithio â nhw wyneb yn wyneb yn bennaf. | |||||
Cysylltiad ar-lein anffurfiol ag athrawon yn eich sefydliad rydych yn rhyngweithio â nhw ar-lein yn bennaf. | |||||
Cysylltiad ar-lein anffurfiol ag athrawon mewn sefydliadau eraill rydych wedi cyfarfod â nhw wyneb yn wyneb ar ryw adeg. | |||||
Cysylltiad ar-lein anffurfiol ag athrawon sydd wedi dod at ei gilydd yn anffurfiol trwy gyfryngau cymdeithasol. | |||||
Cysylltiad ar-lein ffurfiol ag athrawon o’r un pwnc, disgyblaeth neu grŵp oedran. | |||||
Cysylltiad ar-lein ffurfiol ag athrawon o lawer o gefndiroedd sy’n canolbwyntio ar bynciau addysgu penodol (e.e. ystafelloedd dosbarth gwrthdro, addysgu ar-lein ac ati) | |||||
Cysylltiad ar-lein ffurfiol ag aelodau eraill sefydliadau athrawon (e.e. aelodau cyrff proffesiynol, undebau ac ati) |
Gadael sylw
Wrth addysgu ar-lein, mae’n bwysig ystyried nid yn unig eich deunyddiau addysgu, ond eich ymarfer eich hun fel aelod o’r gymuned addysgu ehangach. Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i weld lle y gallech gael y budd mwyaf o’ch cysylltiadau presennol, a sut gallech wneud rhai newydd ar-lein.