3 Dod o hyd i adnoddau ar-lein
Mae miliynau o OER ar gael ar y we. Byddai’r dasg o ddod o hyd iddynt yn feichus iawn i athro/athrawes unigol heblaw am storfeydd OER. Gall y rhain gynnwys allbwn un prosiect neu sawl prosiect a gasglwyd ynghyd, OER gan un sefydliad, neu gasgliad o nifer. Er enghraifft, mae safle OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn casglu ynghyd holl ddeunydd addysg agored y Brifysgol Agored.