2.3 Gwneud elfennau clywedol yn hygyrch
Mae dwy ffordd gyffredin o wneud elfennau sain yn hygyrch i’r rhai hynny na allant wrando arnynt neu nad ydynt eisiau gwrando arnynt. O ran fideos, y dechneg fwyaf cyffredin yw ychwanegu is-deitlau neu gapsiynau caeëdig.
Mewn rhai achosion, fe allai fod yn fwy priodol darparu trawsgrifiad testun ar wahân. Gall hyn weithio’n dda iawn ar gyfer sain, neu ar gyfer rhai fideos, fel cyfweliadau, lle nad yw’r elfen weledol yn hanfodol i ddeall y cynnwys. Os yw’r cynnwys fideo yn fwy cymhleth, cofiwch y gallai fod yn anodd darllen trawsgrifiad a gwylio fideo ar yr un pryd.
Mewn trawsgrifiad neu is-deitlau, fe all fod yn bwysig disgrifio unrhyw seiniau ystyrlon, nid dim ond y geiriau sy’n cael eu llefaru.
Cofiwch, os byddwch yn defnyddio adnodd creu capsiynau awtomatig, fel yr un a ddarperir gan YouTube, bydd rhaid i chi wirio a golygu’r capsiynau a ddarparwyd ganddo i sicrhau cywirdeb. Mae’r allbwn sy’n cael ei greu gan yr adnoddau hyn yn anghywir yn aml, ond gellir ei wella â llaw.