2.5 Sicrhau y gellir cwblhau tasgau heb fod angen deheurwydd dwylo neu graffter gweledol
Mae llawer o bobl yn defnyddio technoleg gynorthwyol sy’n dyblygu swyddogaethau bysellfwrdd yn hytrach na llygoden. Ni all eraill ddefnyddio llygoden yn fanwl gywir. Felly, dylech sicrhau bod yr holl gynnwys a gofynion llywio yn hygyrch gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig. Mae hyn yn golygu os ydych eisiau defnyddio elfennau sy’n gofyn am ddeheurwydd dwylo (fel ymarferion llusgo a gollwng neu bosau croesair) neu graffter gweledol (fel gemau chwilair neu ddelweddau ‘sylwi ar y gwahaniaethau’), fe ddylai fod yn bosibl cwblhau’r rhain gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig, a’r llygoden yn unig (efallai ar y cyd â’r bysellfwrdd ar y sgrin sy’n rhan osodedig o’r rhan fwyaf o systemau gweithredu), neu dylech ddarparu gweithgareddau amgen i’r rhai nad ydynt yn gallu gwneud y tasgau gwreiddiol, o bosibl. I brofi hyn, symudwch eich llygoden allan o gyrraedd, a cheisiwch wneud y gweithgaredd gan ddefnyddio’r bysellau Tab, Bylchwr, Saeth a Chofnodi (Enter). Os gallwch ei gyflawni, ychwanegwch gyfarwyddiadau i’ch dysgwyr ar sut i’w wneud. Os na allwch ei gyflawni, meddyliwch am sut i ddarparu gweithgaredd amgen. Yn yr un modd, treialwch eich adnodd gan ddefnyddio’r llygoden yn unig.