3 Ymchwil weithredu
Mae ymchwil weithredu (a elwir weithiau yn ymchwil ymarferwyr) yn gallu bod yn broses wych i’ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus am addysgeg a thechnoleg mewn dysgu ar-lein. Mae gwaith ymchwil o’r math hwn yn canolbwyntio ar ddatrys problemau penodol a gwella eich ymarfer. Mae’n canolbwyntio ar wneud ymchwil sy’n berthnasol i chi fel athro/athrawes. Fe allai’r syniad o gynnal prosiect ymchwil godi ofn arnoch, ond mae ymchwil weithredu yn ffordd rwydd o gychwyn arni, oherwydd ei bod yn eich helpu i ganolbwyntio ar ddeall a newid eich ymarfer. Os ydych eisoes yn gwneud mathau eraill o waith ymchwil, fe allech weld y bydd angen i chi addasu’r ffordd rydych yn meddwl i raddau.
Dyma rai o gysyniadau allweddol gwaith ymchwil o’r math hwn:
- Cychwyn gan yr athro/athrawes – mae wir yn ymwneud â defnyddio proses ymchwil i wella a datblygu addysgu yn eich cyd-destun.
- Grymuso – mae’n eich helpu i fod yn gyfrifol am eich ymarfer ac, o bosibl, llywio polisïau ac egwyddorion a ddefnyddir yn ehangach yn eich sefydliad.
- Graddfa fach – mae’n hawdd ei rheoli ac yn rhywbeth y gallwch ei gynnwys yn eich amserlen.
Gweithgaredd 3 Defnyddio ymchwil ymarferwyr
Darllenwch yr erthygl hon yn EdFutures (2012) i ddeall mwy am ymchwil ymarferwyr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Wrth i chi ddarllen, meddyliwch am y cwestiynau canlynol. Wedi hynny, ysgrifennwch ymateb byr i bob un:
- A allwch chi feddwl am fater neu gwestiwn allweddol yr hoffech ymchwilio iddo o ran y potensial i chi ddefnyddio dysgu ar-lein yn eich gwaith?
- Pa fath o ddull casglu data y dylech ei ddefnyddio, yn eich barn chi, a pham?
- A oes unrhyw un yr hoffech weithio gydag ef i greu cymuned o amgylch eich prosiect?
- Sut byddech chi’n dylunio’r gwaith ymchwil fel y byddai’r canlyniadau’n ddefnyddiol i chi ac eraill sydd mewn sefyllfa debyg?
Discussion
Lluniwyd y gweithgaredd hwn i’ch helpu i gyfuno sawl un o’r elfennau yr ymdrinnir â nhw yn y cwrs hwn. Dylech ystyried dadansoddeg dysgu, ymchwil weithredu, rhwydweithio a rhannu, a sut gellid eu dwyn ynghyd i’ch galluogi i werthuso’ch ymarfer addysgu ar-lein eich hun yn effeithiol.