Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyflwyniad

uniondeb – tryloywder – parch – tegwch – gwaith tîm

Diogelu’r cyhoedd drwy oruchwylio dulliau rheoleiddio a chofrestru’n effeithiol iawn.

(Awdurdod Safonau Proffesiynol, 2024)

Mae rheoleiddwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu aelodau’r cyhoedd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gan y DU 13 o reoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol a 29 cofrestr sy’n mynnu bod pobl ar y gofrestr yn diwallu ymddygiadau a sgiliau penodol (yn 2024).

Mae’r rheoleiddwyr hyn yn cofrestru pobl sydd â’r cymwysterau a’r profiad i weithio yn eu proffesiwn. Mae Addasrwydd i Ymarfer yn broses lle gall pobl gyfeirio pryderon at reoleiddwyr am bobl ar eu cofrestr. Nod rheoleiddwyr yw cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn a chyfrannu at ddiogelwch cleifion drwy sicrhau bod safonau proffesiynol yn cael eu cynnal (Awdurdod Safonau Proffesiynol, 2023).  

Mae’r rhan fwyaf o reoleiddwyr yn dibynnu ar bobl a sefydliadau i fynegi pryderon am berson cofrestredig. Gall pryderon gynnwys camymddwyn, diffyg cymhwysedd, euogfarnau troseddol, gweithgarwch anghyfreithlon (e.e. twyll, dichell, aflonyddu a cham-drin rhywiol) a chyflyrau iechyd.

Byddant yn ymchwilio os bydd y rheoleiddiwr yn dod o hyd i ddigon o dystiolaeth bod y pryder yn ddifrifol. Mae ymchwiliad yn cynnwys cael datganiad gan aelodau o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth berthnasol am y pryder(on). Os oes tystiolaeth bod y pryderon yn ddigon difrifol, cânt eu hanfon at banel Addasrwydd i Ymarfer, lle mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r aelod(au) o’r cyhoedd roi tystiolaeth mewn gwrandawiad.