Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 4: Sut brofiad mae pobl yn ei gael o’r gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer?

Cyflwyniad

Mae ein hymchwil yn dangos bod mynd i wrandawiad fel tyst yn gallu achosi straen ni waeth pa mor dda mae rhywun yn paratoi ymlaen llaw. Mae'r gwrandawiad yn broses ffurfiol iawn, a disgwylir i dystion ddilyn cyfarwyddyd y sawl sy'n cadeirio'r gwrandawiad o ran pryd y caniateir iddynt fynd i mewn i ystafell y gwrandawiad, ble maent yn eistedd, a phryd maent yn siarad. Mae Ffigur 1 yn dangos enghraifft o ystafell gwrandawiadau yn y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) a chadair 5 yw lle byddai tyst yn eistedd. Os byddwch chi'n clicio Ffigur 1 byddwch chi'n gallu gweld lle mae pobl eraill yn eistedd a phwy ydyn nhw. Bydd Cadeirydd y panel yn cyflwyno pwy yw pobl ond ni fydd fel arfer yn enwi cleifion ac mae'n bosibl y bydd tyst yn cael ei alw'n 'glaf A' er enghraifft, neu'n 'dyst A'.

Cliciwch yr arwyddion plws wrth ymyl pob cadair wedi'i rhifo i ddarllen pwy sy'n eistedd ymhle.

Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Fel arfer, mae swyddog gwrandawiadau neu glerc ar gael i'ch helpu a'ch cynghori. Bydd y panel yn eistedd mewn trefniant ffurfiol. Gall y cofrestrai fod yn bresennol neu beidio. Bydd cynrychiolwyr cyfreithiol (bargyfreithwyr neu dwrneiod) yn bresennol. Mae pobl fel arfer yn gwisgo dillad smart.

Fel arfer, ni chaniateir i dystion fynd â nodiadau na dyfeisiau gyda nhw a dim ond pan ofynnir cwestiwn iddynt y disgwylir iddynt siarad. Mae'n ofynnol i dystion dyngu llw (cadarnhau y byddant yn dweud y gwir); gallant wneud hyn ar lyfr sanctaidd o'u dewis neu ddarllen cadarnhad i nodi y byddant yn dweud y gwir. Mae hyn yn bwysig oherwydd pwrpas rheoleiddwyr yw diogelu'r cyhoedd, ond mae hefyd yn haws i dyst ddweud y gwir am y ffeithiau yn ei ddatganiad tyst. Mae'r sesiwn hon yn edrych ar brofiadau o fynd i wrandawiad a chael eich holi fel tyst cyhoeddus.

Sylwch fod y cynnwys fideo yn y sesiwn hon yn cynnwys tystiolaeth tystion o'r byd go iawn sy'n cynnwys pynciau emosiynol.