Cyflwyniad a chanllawiau
Cwrs rhagarweiniol ar gyfer gofalwyr cyflogedig a gofalwyr di-dâl sy'n helpu pobl yn eu cartref neu mewn lleoliad preswyl, cymunedol neu ofal dydd yw Gofalu am oedolion.
P'un a oes gennych rôl gofalu gyflogedig neu wirfoddol, neu'n gofalu am aelod o'r teulu, bydd y cwrs hwn yn helpu i ehangu eich gwybodaeth a'ch sgiliau er mwyn datblygu eich ymwybyddiaeth o amrywiaeth o bynciau: sgiliau rhyngbersonol ar gyfer gofal, problemau iechyd meddwl, delio ag achosion brys a gofalu amdanoch eich hun fel gofalwr. Mae'r cwrs hefyd yn ystyried y gwahaniaeth rhwng helpu pobl eraill gyda'u hanghenion sylfaenol o ddydd i ddydd a chyfrifoldebau gofalu mwy penodol a fydd hefyd yn dibynnu ar anghenion y person sy'n derbyn gofal.
Os byddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gallu cyflawni Datganiad Cyfranogi fel cydnabyddiaeth o'ch dysgu. Os hoffech dderbyn bathodyn digidol, mae angen i chi wneud fersiwn Saesneg y cwrs. Nid yw'r cyrsiau hyn yn arwain at unrhyw gredyd academaidd ffurfiol. Fodd bynnag, maent yn cynnig ffordd i chi helpu i ddatblygu o ddysgu anffurfiol i ddysgu ffurfiol.