Ymwybyddiaeth iechyd meddwl
Cyflwyniad
Mae gofal iechyd meddwl wedi cael ei ddisgrifio fel 'materion teuluol' am fod gwasanaethau cymorth modern yn canolbwyntio fwyfwy ar leoliadau cymunedol, lle y cynhelir y rhan fwyaf o ofal iechyd meddwl bellach. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2010), mae 1.5 miliwn o bobl yn y DU yn gofalu am berthynas neu ffrind sydd â phroblem iechyd meddwl neu ddementia. Rhoddir mwy a mwy o bwyslais ar rôl gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu wrth helpu pobl sydd mewn gofid meddwl i wella.
Mae'r cwrs o werth i bob gofalwr. Gall gofalwyr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gynnwys pobl sy'n gofalu am berthynas neu ffrind yn eu cartref. Gallent hefyd gynnwys pobl sy'n cael eu talu i ofalu, fel gweithwyr cymorth mewn gwasanaethau cymunedol. Rydym hefyd yn cydnabod mewn rhai sefyllfaoedd y gallai fod gan y 'person sy'n derbyn gofal' rai cyfrifoldebau gofalu ac y gallai fod angen gofalu am ofalwyr anffurfiol a gofalwyr cyflogedig ar adegau.
Yn yr adran hon, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl. Byddwch yn ystyried opsiynau gofal a thriniaeth ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis o un o sawl salwch meddwl. Yna, byddwch yn astudio rôl gofalwyr teuluol sy'n gofalu am ffrind neu berthynas sydd â phroblemau iechyd meddwl, a'u cydberthynas a'u hymgysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl.
Caiff yr adran ei rhannu'n bum pwnc a dylai gymryd tua hanner awr i chi astudio a chwblhau pob un o'r rhain. Mae'r pynciau fel a ganlyn:
- Mae Terminoleg ac iechyd meddwl yn trafod y gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl da a phroblemau iechyd meddwl. Mae'n cyflwyno'r model biomeddygol fel dull gweithredu ar gyfer gofal a thriniaeth ac mae'n amlinellu rhai o ddiffygion y model hwn.
- Mae Mathau o broblem iechyd meddwl yn disgrifio arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl penodol.
- Mae Profi problemau iechyd meddwl yn archwilio sut y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar yr unigolyn.
- Mae Gofal a thriniaeth iechyd meddwl yn amlinellu mai nod gofal iechyd meddwl yn canolbwyntio yw adferiad, ac mae'n trafod triniaeth benodol ar gyfer mathau penodol o broblemau iechyd meddwl.
- Mae Profiad gofalwyr yn trafod effaith problemau iechyd meddwl ar ofalwyr teuluol a sut y gall gofalwyr ymgysylltu â gwasanaethau iechyd meddwl.