3.1 Nid yw gwrando yr un fath â chlywed
Mae clywed yn cyfeirio at y synau rydych yn eu clywed, ond mae angen i chi ganolbwyntio er mwyn gwrando. Mae angen sylwi ar y geiriau ac ar sut y cânt eu dweud wrth wrando.
- Pa fath o iaith sy'n cael ei defnyddio?
- Beth mae tôn y llais yn ei ddweud wrthych?
- Beth mae iaith corff y person yn ei ddweud wrthych?
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o negeseuon llafar a di-lafar, ac mae eich gallu i wrando'n dda yn dibynnu ar ba mor dda rydych yn gweld ac yn deall y negeseuon hyn.
Gweithgaredd 8
Gwyliwch y sgwrs TED hon am wrando gweithredol
Transcript: Gwrando gweithredol
Gwrando gweithredol
Mae Katie Owens yn dweud wrthym am gofio tri gair allweddol er mwyn gallu gwrando'n weithredol, sef:
- Bod
- Yma
- Nawr.
Beth yw ystyr hyn yn eich barn chi? Ysgrifennwch eich ateb isod.
Sylwadau
Mae Katie Owens yn dweud y dylem fod yn bresennol i'r person rydym yn gwrando arno. Mae angen i ni rannu'r foment ag ef, peidio â gwneud unrhyw beth arall a sicrhau nad oes unrhyw beth yn tynnu ein sylw, fel ffonau symudol neu gael un llygad ar y teledu. Mae hefyd yn ddefnyddiol i grynhoi beth mae rhywun wedi'i ddweud wrthych, rhoi cyfle iddo sicrhau eich bod wedi gwrando'n gywir ac wedi deall beth oedd ganddo i'w ddweud.