3 Gofal diwedd oes
Mae gofal diwedd oes yn rhan bwysig o ofal lliniarol ar gyfer pobl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod ym mlwyddyn olaf eu bywyd, tra'n cydnabod y gall fod yn anodd rhagweld y cyfnod hwn. Nod gofal diwedd oes yw:
- helpu pobl i fyw cystal â phosibl ac i farw ag urddas
- cynnig cymorth ychwanegol fel help gyda materion cyfreithiol
- parhau i ofalu cyhyd ag y bydd angen.
O'r hyn rydych wedi'i astudio hyd yma yn yr adran hon, byddwch yn gwybod bod cyfaniaeth a gofal diwedd oes sy'n canolbwyntio ar y person yn dibynnu ar ddeall y person sy'n marw a'i gyflwr neu salwch. Mae hyn yn dibynnu ar asesiad da a manwl sy'n ystyried dymuniadau'r person. Yn fyr, mae'n helpu i arwain at farwolaeth dda.
Er mwyn sicrhau marwolaeth dda, mae angen cymryd sylw manwl o'r hyn sy'n bwysig i'r person sy'n marw.
Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn gwylio fideo a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) lle byddwch yn dilyn straeon dwy fenyw sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae'r fideo yn dilyn arbenigwyr o hosbis sy'n cynnal asesiadau cyfannol ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau gofal diwedd oes yn seiliedig ar ddymuniadau'r person sy'n derbyn gofal.
Gweithgaredd 3
Gwyliwch y fideo Gofal diwedd oes: beth sy'n bwysig i'r person sy'n marw [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Wrth i chi wylio'r fideo, a welsoch chi sut y caiff y personau sy'n derbyn gofal eu cynnwys yn y penderfyniadau am eu gofal diwedd oes?
Gwnewch nodiadau cryno am y cynlluniau a wnaed ganddynt.
Sylwadau
Efallai eich bod wedi sylwi bod yr ymyrraeth gan yr arbenigwr wedi helpu i roi rhywfaint o eglurder i deuluo'r claf cyntaf. I ddechrau, roedd yr ail glaf yn amharod i wneud cynlluniau ynghylch ei gofal diwedd oes ond, gyda help gweithiwr cymdeithasol, gwnaeth gynlluniau ar gyfer ei gofal diwedd oes ac roedd yn teimlo'n fwy hyderus ac mewn rheolaeth am ei bod yn teimlo ei bod yn cael cefnogaeth.
Mae'r fideo yn pwysleisio, er y bydd pob un ohonom yn marw un diwrnod, dim ond un siawns a gawn i gael y gofal diwedd oes cywir. Felly, mae'n bwysig gwrando ar yr hyn mae'r person yn ei ddweud a gweithredu arno. Gallai hyn gynnwys egluro beth sy'n digwydd i aelodau o'r teulu ac eraill sy'n agos at y person. Fel hyn, gall siarad am yr hyn y gall marwolaeth dda ei olygu i'r person wella ansawdd ei fywyd wrth iddo agosáu at farwolaeth.
Roedd yr arbenigwyr gofal lliniarol o'r hosbis yn hyderus iawn yn y ffordd y gwnaethant ryngweithio â'r ddwy fenyw yn y fideo. Roedd yr hyder hwn am eu bod yn abl iawn i wneud eu swyddi mewn sefyllfaoedd anodd, ond roedd hefyd oherwydd eu bod yn deall bod a wnelo gofal diwedd oes yn bennaf â'r bobl sy'n derbyn gofal. Adeiladwyd y broses o ddatblygu eu cydberthnasau â'r menywod ar ddull gweithredu penodol ar gyfer eu rôl: dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar y person. Ategwyd y dull gweithredu hwn gan egwyddorion a oedd yn arwain sut roeddent yn rhyngweithio â'r ddwy fenyw. Caiff yr egwyddorion hyn eu hegluro yn fanylach nesaf.