1.2 Asesu galluedd meddyliol
Wrth asesu galluedd meddyliol rhywun, i ddechrau, dylech bob amser dybio bod gan berson sy'n derbyn gofal ddigon o ddealltwriaeth neu alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau. Dim ond pan fydd amheuaeth wirioneddol ynghylch galluedd y person sy'n derbyn gofal i wneud penderfyniad mewn sefyllfa benodol y dylid gwneud asesiad – a dim ond ar ôl i'r asesiad ddod i'r casgliad nad oes gan y person alluedd y gellir gwneud penderfyniadau ar ei gyfer. Cyn penderfynu nad oes gan rywun alluedd i ddeall gwybodaeth a gwneud penderfyniadau, dylech sefydlu i ddechrau p'un a ellir helpu'r person i wneud ei benderfyniadau ei hun.
Ymysg y cwestiynau y gallech eu gofyn mae:
- A oes gan y person unrhyw nam meddyliol?
- A oes unrhyw arwyddion neu symptomau o anabledd, salwch neu ddirywiad gwybyddol?
Os oes, ymysg y cwestiynau pellach, mae:
- A oes angen i mi gynnwys pobl eraill?
- A ddylid asesu'r materion hyn a mynd i'r afael â nhw cyn penderfynu nad oes gan y person alluedd?
- A yw'r nam neu'r anabledd yn atal y person rhag gwneud y penderfyniad? Nid yw bod yn sâl, yn anabl neu fod â nam meddyliol yn arwain at fod heb alluedd meddyliol o reidrwydd.
Mewn llawer o amgylchiadau, fel penderfyniadau bob dydd, efallai mai'r gofalwr fydd y person gorau i ateb y cwestiynau hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai penderfyniadau, mae angen asesu galluedd meddyliol person a gweithwyr proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol neu feddyg fyddai'n gyfrifol am hyn. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid gwneud pob ymdrech i helpu'r person i ddeall y wybodaeth a gwneud penderfyniad cyn dyfarnu y gall neu na all y person wneud ei benderfyniadau ei hun.