4.1 Pam mae angen cynllun gofal brys?
Mae cynlluniau gofal brys yn cydnabod arbenigedd ac ymrwymiad gofalwyr, a'u cyfrifoldeb wrth sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y person sy'n derbyn gofal yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arno. Gall y person sy'n derbyn gofal neu ei ofalwyr wneud y cynlluniau. Fodd bynnag, ni waeth pwy sy'n llunio'r cynllun gofal brys, mae'n debygol o gynnwys sawl elfen debyg.
Dylech ystyried yr amrywiaeth eang o weithgareddau a gyflawnir gan ofalwyr bob munud o bob dydd. Yn dibynnu ar y sefyllfa, bydd gofalwyr yn golchi'r person sy'n derbyn gofal, yn gwisgo amdano, yn gweinyddu ei feddyginiaeth, yn ei helpu i ddefnyddio'r toiled a glanhau ei hun, yn mynd ag ef i siopa ac yn eirioli ar ran y person sy'n derbyn gofal. Dyma rai enghreifftiau o'r rolau a chyfrifoldebau a gyflawnir gan ofalwyr. Pan na fydd y gofalwr ar gael, mae'r cynllun gofal brys yn un ffordd y gellir cyfathrebu anghenion a dewisiadau'r person sy'n derbyn gofal i eraill.
Mae'n bwysig nodi ar y cam hwn nad yw sefyllfa lle y caiff cynllun gofal brys ei roi ar waith yn sefyllfa lle mae'r person sy'n derbyn gofal yn agored i gyfyngiadau ychwanegol. Mae angen sicrhau y caiff y risg ei rheoli er budd gorau'r person sy'n derbyn gofal, ac y caiff unrhyw gynllun rheoli risg ei weithredu gan ystyried y buddiannau cadarnhaol posibl i'r person hwnnw. Felly, er enghraifft, os nad yw'r gofalwr arferol ar gael a bod gofalwyr llai profiadol yn cymryd ei le, nid yw hynny'n angenrheidiol yn golygu na ddylai unrhyw weithgareddau y mae'r person sy'n derbyn gofal yn eu cyflawni drosto'i hun fel arfer barhau.
Nid dim ond dogfen yw cynllun gofal brys, proses ydyw. Dylai'r broses gynnwys trafodaethau cychwynnol â'r person sy'n derbyn gofal, ei deulu a'i ofalwyr. Byddai'r trafodaethau yn ceisio rhagweld unrhyw achosion brys posibl lle mae angen y cynllun gofal a chynllunio ar eu cyfer. Gallai fod angen mwy nag un sgwrs ar gyfer hyn. Ar y cam hwn, caiff galluedd meddyliol y person sy'n derbyn gofal ei drafod a chaiff asesiad ei drefnu os credir bod angen un. (Caiff galluedd meddyliol ei drafod ym Mhwnc 1 o'r adran hon.)