Pwyntiau allweddol o Adran 4
Yn yr adran hon rydych wedi dysgu:
- beth yw galluedd meddyliol a sut y caiff ei asesu
- y cyswllt rhwng galluedd meddyliol a chymryd risgiau cadarnhaol
- y ffyrdd gwahanol y gall gofalwyr gynnig cymorth ac anogaeth er mwyn annog rhywun i fyw'n annibynnol a sut y gall technoleg gynorthwyol helpu rhai pobl
- pam y mae'n bwysig ystyried yr arfer lleiaf cyfyngol wrth gydnabod risg ond cydbwyso hynny yn erbyn grymuso a helpu'r bobl rydych yn gofalu amdanynt i wneud rhai pethau drostynt eu hunain
- pam y gall fod angen cynllun gofal brys
- nodweddion cyffredin cynllun gofal brys.
Fel rydych yn ymwybodol bellach, gall gofalu am rywun gymryd drosodd, felly mae'n bwysig bod gofalwyr hefyd yn cymryd yr amser i ofalu amdanynt eu hunain. Mae Adran 5 yn cynnig rhai awgrymiadau ynghylch sut y gall gofalwyr ofalu am eu lles eu hunain.