Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Cyfyngiadau ac adnoddau

Mae ein cyfyngiadau a'n hadnoddau ein hunain yn effeithio ar bob un ohonom. Weithiau, gall yr un peth fod yn gyfyngiad ac yn adnodd. Os ydych yn prynu tŷ ar forgais, mae'n rhwymedigaeth ac yn ased; gall fod angen eich cymorth ar ffrind neu berthynas ond gall y ffrind neu'r berthynas fod yno i roi cymorth i chi hefyd.

Gweithgaredd 4

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Beth yw eich cyfyngiadau a'ch adnoddau?

Meddyliwch am eich adnoddau - y pethau, y bobl a'r agweddau a allai eich helpu. Yna meddyliwch am yr hyn sy'n eich cyfyngu - y pethau y mae angen i chi eu hystyried, neu a all fod yn broblem.

Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ac ysgrifennwch nhw i lawr. Ceir enghraifft yn Nhabl 1.

Tabl 1

Tabl 1
AdnoddauCyfyngiadau

Arian

Adnoddau ariannol 

Cyfrifoldebau

Cyfarpar, adnoddau, eiddo

Mae gennyf …

Nid oes gennyf …

Pobl, teulu, cysylltiadau

Pwy all fy helpu? 

Pwy sydd angen help neu gymorth gennyf?

Iechyd

Pwyntiau da      

Pwyntiau gwael

Credoau, agweddau

Pethau cadarnhaol

Pethau negyddol

Gadael sylw

Ystyriwch yr atebion a roesoch yn y tabl a lenwyd gennych.

  • Sut fyddant yn effeithio ar y math o gyfleoedd sydd ar gael i chi?
  • A oes pethau eraill y mae angen i chi eu hystyried? Er enghraifft, oes angen i chi weithio yn agos at eich cartref?
  • Allech chi symud i ardal newydd?
  • Allech chi weithio o gartref?
  • Oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu, neu a oes angen gofal arnoch chi eich hun?