Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cael y swydd

4.1 Am beth mae cyflogwyr yn edrych pan maent yn recriwtio?

Yn ei adroddiad Building for Growth a gyhoeddwyd yn 2011, nododd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) saith sgil cyflogadwyedd craidd y mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn eu gwerthfawrogi:

  1. Hunanreoli:
    • parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
    • hyblygrwydd
    • gwydnwch
    • hunangymhelliant
    • pendantrwydd priodol
    • rheoli amser
    • parodrwydd i wella eich perfformiad eich hun yn seiliedig ar adborth/dysgu myfyriol.
  2. Gweithio mewn tîm:
    • parchu eraill
    • cydweithredu
    • negodi a darbwyllo
    • cyfrannu at drafodaethau
    • ymwybyddiaeth o gyd-ddibyniaeth ag eraill.
  3. Datrys problemau:
    • dadansoddi ffeithiau a sefyllfaoedd
    • meddwl yn greadigol er mwyn datblygu atebion priodol.
  4. Cyfathrebu a llythrennedd:
    • cynhyrchu gwaith ysgrifenedig clir a strwythuredig
    • llythrennedd llafar
    • gwrando a holi.
  5. Rhifedd:
    • trin rhifau
    • ymwybyddiaeth gyffredinol o fathemateg a'r ffordd y caiff ei defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol.
  6. Defnyddio technoleg gwybodaeth:
    • sgiliau TG sylfaenol
    • cynefindra â rhaglenni TG cyffredin.
  7. Ymwybyddiaeth o fusnes a chwsmeriaid:
    • deall y prif ffactorau sy'n ysgogi llwyddiant busnes
    • arloesi
    • mentro'n ofalus
    • rhoi boddhad i gwsmeriaid
    • meithrin teyrngarwch ymhlith cwsmeriaid.

Yn ôl yr adroddiad, mae pedwar o bob pum cyflogwr yn gwerthfawrogi'r sgiliau hyn. Yn sail i bob un ohonynt mae agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd. Rydym wedi'u categoreiddio'n bedwar maes eang:

  1. sgiliau hunanddibyniaeth
  2. sgiliau pobl
  3. sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol
  4. sgiliau arbenigol.

Mae Tabl 5 yn dangos y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a sut y gellir eu datblygu.

Tabl 5
Math o sgilEnghreifftiau o'r ffyrdd y gellir datblygu'r sgiliau drwy ddiddordebau, gwaith ac addysg

Sgiliau hunanddibyniaeth

Hunanymwybyddiaeth: pwrpasol, penodol, hunangred, realistig, asesu eich perfformiad eich hun

Rhagweithiol: blaengaredd, ysgogol, hunanddibynnol

Parodrwydd i ddysgu: chwilfrydig, llawn cymhelliant, brwdfrydig

Hunanhyrwyddo: cadarnhaol, parhaus, uchelgeisiol, derbyn cyfrifoldeb

Rhwydweithio: sbarduno, meithrin cydberthnasau, blaengaredd

Datrys problemau: sut rydych yn mynd i'r afael â phroblemau, dod o hyd i atebion a'u rhoi ar waith

Cynllun camau gweithredu: gwneud penderfyniadau, cynllunio, gallu blaenoriaethu, nodi meysydd i'w gwella

Astudio: ymgymryd â phrosiectau hunangyfeiriedig

Rolau yn y gwaith

Cyfranogi mewn grwpiau cymunedol neu elusennau

Rolau yn y cartref: cynllunio, trefnu pobl eraill

Sgiliau pobl

Gweithio mewn tîm: cefnogol, trefnus, cydgysylltydd, cyflawnwr, dibynadwyedd, y gallu i addasu

Sgiliau rhyngbersonol: gwrandawr, cynghorydd, cydweithredol, pendant

Cyfathrebu llafar: cyfathrebwr, cyflwynydd, dylanwadwr

Arweinyddiaeth: cymhellwr, llawn egni, gweledigaethol

Canolbwyntio ar gwsmeriaid: cyfeillgar, gofalgar, diplomyddol, parch

Iaith dramor: sgiliau iaith penodol

Cyfrifoldeb gofalu

Cyfrifoldebau gwaith mewn tîm

Codi arian i elusen

Gwaith gwirfoddol

Aelod o gerddorfa neu grŵp drama

Chwaraeon

Arweinydd Geidiaid/Sgowtiaid

Teithio

Sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol

Datrys problemau: ymarferol, rhesymegol, yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau

Hyblygrwydd: hyblyg, parod, amryddawn

Craffter busnes entrepreneuraidd, cystadleuol, cymryd risgiau, gwasanaeth cwsmeriaid

Llythrennedd TG/cyfrifiadurol: sgiliau swyddfa, sgiliau bysellfwrdd, pecynnau meddalwedd

Rhifedd: cywir, meddwl yn gyflym, trefnus, delio â data

Ymrwymiad: ymroddedig, dibynadwy, cydwybodol

Rolau yn y cartref: cyllidebu

Rolau yn y gwaith: defnyddio TG, profiad gwaith

Gwaith prosiect drwy astudio

Aelod o glybiau, pwyllgorau a chymdeithasau lleol

Hunangyflogaeth

Sgiliau arbenigol

Sgiliau galwedigaethol penodol: gwybodaeth arbenigol berthnasol e.e. ieithoedd, TG

Sgiliau technegol: newyddiaduraeth, peirianneg, cyfrifyddu, gwerthu

Astudio

Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL)

Sgiliau iaith

Sgiliau dylunio gwefannau: defnyddio ieithoedd rhaglennu neu godio

Defnyddio adnoddau cyfryngau cymdeithasol

Cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith

Cymhwyster NVQ

Mae'r gofynion y bydd cyflogwr yn eu nodi mewn hysbyseb swydd yn debygol o fod yn llawer mwy penodol, ond mae'n werth cofio bod disgwyl i'r sawl sy'n gwneud cais am swydd ddangos o leiaf rai o'r sgiliau hyn.