Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4 Yr hyn y mae cyflogwyr ei eisiau

Mae llawer o gyflogwyr yn symud tuag at arddull asesu sy'n seiliedig ar gymhwysedd ar gyfer gwerthuso ymgeiswyr. Mae hyn yn golygu bod angen i'r ymgeisydd fabwysiadu dull gweithredu penodol er mwyn llwyddo. Mae technegau penodol y gellir eu defnyddio i wella'r siawns o lwyddo ar y cam hwn yn sylweddol. Gall y cam cyntaf fod yn un anodd, gan fod holiaduron llawer o gyflogwyr wedi'u dylunio'n benodol i sicrhau bod canran benodol o ymgeiswyr yn methu.

Cymwyseddau yw'r meini prawf y mae cyflogwyr yn eu pennu ar gyfer pob swydd. Maent yn dangos yr hyn y 'gallwch ei wneud'. Nid yw nodi hyn yn ddigon – mae cyflogwyr eisiau i chi gyflwyno tystiolaeth i ddangos eich cymwyseddau. Nid yw rhai disgrifiadau swydd yn sôn am gymwyseddau o gwbl. Yn hytrach, maent yn sôn am sgiliau. Mae llawer o gyflogwyr yn defnyddio'r termau 'sgiliau' a 'chymwyseddau' mewn ffordd gyfnewidiol, felly peidiwch â phoeni gormod am hyn. Sail asesiad sy'n seiliedig ar gymhwysedd yw; os gallwch ddangos eich bod wedi gwneud rhywbeth yn y gorffennol, yna gallwch ei wneud yn y dyfodol hefyd.

Fel y nodwyd ym Mloc 2, un dechneg dda y gellir ei defnyddio wrth ateb cwestiynau ar ffurflenni cais neu mewn cyfweliad yw STAR (Situation, Task, Action, Result yn Saesneg):

  • Sefyllfa: Beth oedd y sefyllfa a phryd oedd hynny?
  • Tasg: Beth oedd y dasg, a beth oedd yr amcan?
  • Camau Gweithredu: Pa gamau gweithredu y gwnaethoch eu cymryd i gyflawni hyn?
  • Canlyniadau: Beth ddigwyddodd o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gennych?

Wrth ystyried pa brofiad i'w dewis wrth ateb cwestiwn penodol, gall fod yn ddefnyddiol defnyddio techneg RAPPAS (Relevant, Action, Personal, Positive, Appropriate, Specific yn Saesneg) fel canllaw:

  • Perthnasol: Sicrhewch fod eich ateb yn disgrifio’r sgil y gofynnir amdano.
  • Camau Gweithredu: Sicrhewch eich bod yn cynnwys rhywbeth rydych wedi'i wneud, yn hytrach na'r hyn rydych wedi'i ddysgu, neu'r hyn y byddech yn ei wneud mewn sefyllfa ddamcaniaethol.
  • Personol: Y peth pwysicaf yw nodi'r hyn y gwnaethoch chi, yn hytrach na'r hyn y gwnaeth pobl eraill neu'r hyn a ddigwyddodd.
  • Cadarnhaol: Bydd yr ateb yn darllen yn well os yw'r canlyniad yn un cadarnhaol.
  • Priodol: Mae'n rhaid i'r enghraifft fod yn rhywbeth rydych yn gyfforddus yn ei drafod os gofynnir i chi am fwy o fanylion.
  • Penodol: Os yw'r cwestiwn yn gofyn am enghraifft, dim ond un y dylech ei disgrifio, yn hytrach na chyfuniad o sawl enghraifft.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 4 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.