Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Ffurflenni cais

Mae ffurflenni cais o bob lliw a llun ar gael. Caiff rhai ohonynt eu cynllunio i recriwtio pobl ar gyfer swyddogaeth benodol neu gynllun hyfforddi. Defnyddir y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi yn y sefydliad (e.e. Ymddiriedolaeth y GIG). Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau mawr bellach yn rhoi eu ffurflenni ar-lein, a all arbed amser a chostau postio.

Pa bynnag fformat a ddefnyddir, mae'r egwyddorion ar gyfer cwblhau ffurflenni cais yn debyg iawn. Os gofynnir i chi gyflwyno ffurflen gais, peidiwch ag anfon CV. Yn aml – ond nid bob amser – nodir bod modd i chi amgáu CV hefyd. Os byddwch yn gwneud hynny, ni ddylai ailadrodd yr hyn sydd ar eich ffurflen. Defnyddiwch eich CV yn effeithiol i gynnwys neu bwysleisio gwybodaeth sy'n berthnasol yn eich barn chi ac na ofynnir amdani ar y ffurflen.

Cofiwch am y pwyntiau canlynol pan fyddwch yn cwblhau ffurflen gais:

  • Diben ffurflen gais wedi'i chwblhau, fel CV neu lythyr, yw sicrhau cyfweliad.
  • Eich nod yw darbwyllo'r cyflogwr ei fod yn werth cyfweld â chi – eich bod yn ymddangos yn ymgeisydd addas ar gyfer y swydd, ac yn fath o berson y mae'r sefydliad eisiau ei gyflogi.
  • Yr unig wybodaeth fydd gan y sawl sy'n dewis amdanoch fydd yr hyn rydych wedi'i roi iddynt yn eich cais ysgrifenedig. Pwysleisiwch y pethau cadarnhaol a gadewch iddyn nhw sylwi ar y pethau negyddol. Darbwyllwch nhw fod angen iddynt eich gweld.
  • Cofiwch y gall y ffordd y caiff y wybodaeth ei chyflwyno fod mor bwysig â'r cynnwys.
  • Mae llawer o gyflogwyr mwy o faint yn gofyn i chi gwblhau cais ar-lein.

Wrth gwblhau ffurflenni ar-lein, efallai na fydd rhai o'ch profiadau yn ffitio'n daclus i'r categorïau a ddarperir. Awgrymir eich bod yn cysylltu â'r cyflogwr i gael cyngor ar sut i fynd i'r afael â hyn.

Os nad ydych wedi bwrw golwg dros ffurflenni cais cyflogwyr ers peth amser, efallai y cewch eich synnu gan natur dreiddgar rhai o'r cwestiynau a ofynnir, ac nid dim ond ar gyfer swyddi uwch. Rhoddir rhai cwestiynau sampl yn ddiweddarach yn yr adran hon.

Cofiwch fod cyflogwyr yn aml yn derbyn nifer fawr o ffurflenni. Mae hyn yn golygu y gallant dreulio cyn lleied â dau funud yn darllen drwy eich ffurflen – felly mae'n hanfodol eich bod yn gwerthu eich hunan yn effeithiol.