Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Cyn i chi ddechrau eich ffurflen gais

  • Ceisiwch ganfod cymaint â phosibl am y swydd a'r sefydliad. Gofynnwch i'r sefydliad am fwy o fanylion (er enghraifft, disgrifiad swydd a manyleb person manwl) ac, os yw'n bosibl, ymwelwch â gwasanaeth gyrfaoedd neu lyfrgell fawr i chwilio am wybodaeth arall. Gallwch hefyd fynd ati i ymchwilio ar-lein – bydd gan y rhan fwyaf o sefydliadau wybodaeth gynhwysfawr ar eu gwefannau.
  • Darllenwch drwy'r ffurflen gyfan cyn i chi lenwi unrhyw un o'r adrannau.
  • Gwnewch lungopi o'r ffurflen wag (neu ei hargraffu o'r sgrin) a'i ddefnyddio ar gyfer eich fersiwn ddrafft.
  • Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau fel defnyddio inc du neu brif lythrennau. Rhaid i chi gadw at y fformat penodedig, gan fod llawer o gyflogwyr mawr bellach yn sganio ceisiadau yn optegol er mwyn eu cynnwys yn eu cronfeydd data recriwtio.
  • Fel arfer, mae'r gofod a ganiateir ar gyfer pob cwestiwn yn dangos pa mor bwysig ydyw o gymharu â chwestiynau eraill.