Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Y curriculum vitae

Yn yr un modd â ffurflen gais, prif nod curriculum vitae (CV) yw darbwyllo'r sawl sy'n recriwtio ei fod yn werth rhoi cyfweliad i chi. Mantais CV yw mai chi sy'n penderfynu pa wybodaeth i'w chynnwys a'i hamlygu, a pha wybodaeth rydych am ei hepgor neu dalu llai o sylw iddi. Nid oes angen i'ch CV ddilyn unrhyw fformat penodol chwaith, felly mae gennych fwy o reolaeth dros yr argraff a gaiff ei chreu. Gallwch deilwra'r arddull, y cynnwys a'r cynllun i ddangos eich cryfderau a'ch cyflwyno yn y ffordd fwyaf cadarnhaol.

Pwysigrwydd teilwra eich CV

Y peth pwysicaf i'w gofio yw nad oes fawr ddim gwerth defnyddio un CV at 'bob diben'. Dim ond os ydych bob amser yn gwneud cais am yr un swydd mewn sawl sefydliad tebyg iawn y bydd hyn yn debygol o weithio. Yn aml, mae'n fwy effeithiol os byddwch yn addasu eich CV i weddu i'r sefydliad neu'r swydd benodol rydych yn gwneud cais amdani – rhywbeth sy'n ddigon hawdd ei wneud os ydych yn defnyddio prosesydd geiriau.

Mae cyflogwyr yn disgwyl i chi ddangos eich bod yn ymateb i'w hysbysebion nhw, yn hytrach na'n anfon llwyth o CVau union debyg i restr o gwmnïau. Efallai mai dyna'n union y byddwch yn ei wneud, ond mae'n rhaid iddo edrych fel petaech yn targedu'r cwmni unigol, a gallwch atgyfnerthu'r argraff hon drwy deilwra'r llythyr eglurhaol.

Arddull y CV

Dylai arddull gyffredinol y CV ddibynnu ar y sector neu'r sefydliad y mae wedi'i gyfeirio ato. Er enghraifft, gall ceisiadau a wneir i sefydliadau marchnata neu'r diwydiant cyhoeddi fod yn llwyddiannus os yw'r arddull a'r cynllun yn awgrymu bod yna ddawn i ysgrifennu mewn ffordd fywiog neu ym maes dylunio graffig. Gallai defnyddio'r un arddull ar gyfer sefydliad ariannol ac awdurdod lleol, dyweder, gael effaith andwyol. Dylech gofio hyn wrth lunio eich CV eich hun.