6.3 Cyflwyno eich CV
Er mwyn cynhyrchu CV effeithiol, dylech dalu sylw i'w ymddangosiad yn ogystal â'i gynnwys.
- Sicrhewch ei fod yn hawdd ei ddarllen a'i ddilyn. Bydd eich CV chi yn un o lawer y bydd yn rhaid i'r cyflogwr eu darllen. Defnyddiwch ffont 'hawdd ei ddarllen', fel Arial 11 pwynt.
- Cyflwynwch y wybodaeth mewn ffordd gyson (e.e. trefn dyddiadau) a sicrhewch fod eich cynllun yn gyson. Defnyddiwch yr un arddull ar gyfer pob pennawd (prif lythrennau, ffont trwm, tanlinellu). Defnyddiwch bwyntiau bwled er mwyn sicrhau bod modd darllen y wybodaeth yn gyflymach.
- Fel arfer, dwy ochr A4 yw'r hyd gywir.
- Peidiwch â gorlenwi'r dudalen na'i gwneud yn anniben drwy ddefnyddio atalnodi diangen. Mae gofod yn gwneud testun yn haws i'w ddarllen ac yn fwy deniadol.
- Rhowch y wybodaeth bwysicaf ar y dudalen gyntaf ac mor agos â phosibl at y brig. Efallai na fydd y cyflogwr yn trafferthu i ddarllen ymlaen os nad oes unrhyw beth diddorol wedi'i nodi ar y dechrau.
- Dylai'r lle rydych yn ei roi i bob adran adlewyrchu ei phwysigrwydd. Canolbwyntiwch ar yr agweddau sydd bwysicaf i'r cyflogwr eu gwybod.
- Ceisiwch osgoi brawddegau hir a chymhleth. Peidiwch â defnyddio jargon a thalfyriadau nad yw'r darllenydd yn gyfarwydd â nhw o bosibl. Ysgrifennwch y geiriau allan yn llawn y tro cyntaf y byddwch yn eu defnyddio a rhowch y talfyriadau mewn cromfachau; ar ôl hynny, gallwch ddefnyddio'r talfyriad ar ei ben ei hun.
- Gofynnwch am farn pobl eraill ar eich fersiwn ddrafft a phrawfddarllenwch y fersiwn derfynol yn ofalus.
- Os bydd angen i chi anfon CV papur, dylai gael ei gynhyrchu i safon uchel gan ddefnyddio prosesydd geiriau a'i argraffu neu ei gopïo ar bapur gwyn neu hufen o ansawdd da. Sicrhewch fod y copïau yn glir. Os bydd angen i chi ddangos diddordeb ym maes dylunio (e.e. ar gyfer rhai swyddi yn y cyfryngau), efallai y bydd graffeg fwy manwl a phapur lliw yn fwy priodol.
- Sicrhewch fod eich CV yn cyrraedd yn edrych fel dogfen o safon. Peidiwch â'i blygu. Defnyddiwch amlen A4 gyda darn o gardbord i'w atgyfnerthu.
- Os byddwch yn anfon eich CV dros yr e-bost, anfonwch gopi caled hefyd ar unwaith, os bydd angen.
- Cadwch gopi o'ch CV mewn man diogel. Bydd ei angen arnoch eto er mwyn ei addasu ar gyfer cyflogwyr eraill.