Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.4 Enghreifftiau o wahanol fathau o CV

Does dim ffordd gywir nac anghywir o ysgrifennu CV. Yr un gywir yw'r un sy'n gweithio i chi yn eich sefyllfa ac sy'n eich helpu i gael cyfweliadau. Yma, byddwn yn rhoi rhai canllawiau ar arfer da ac yn cynnig rhai enghreifftiau o fformatau posibl:

  • cronolegol
  • swyddogaethol
  • wedi'i dargedu.

Byddwn hefyd yn dangos rhai enghreifftiau o CVau sydd wedi'u targedu at ddibenion penodol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dueddol o ffafrio un arddull, ond pa fformat bynnag y byddwch yn ei ddewis, dylai fod yn ddigon hyblyg i'w addasu er mwyn cyfateb i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, bydd angen i chi benderfynu pa fath o CV i'w ddefnyddio, gan nad yw'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn nodi math penodol. Fodd bynnag, bydd rhai meysydd gwaith yn disgwyl i chi ddefnyddio fformat penodol. Wrth ymchwilio i swyddi, edrychwch ar yr hyn y gellid ei ddisgwyl. Mae'n bwysig eich bod yn canfod a oes fformat a ffefrir ar gyfer y math o swydd rydych yn gwneud cais amdani drwy wneud ymchwil bellach i'r swydd ac, os bydd angen, yn ceisio cyngor gan gynghorydd gyrfaoedd (neu'r corff proffesiynol, os oes un). Er enghraifft, mae rhai proffesiynau, fel y proffesiwn cyfreithiol, yn ffafrio CVau mewn fformat cronolegol. Pan fydd gennych brofiad gwaith sy'n uniongyrchol berthnasol, mae'n ddefnyddiol tynnu sylw ato mewn adran ar wahân.

Y CV cronolegol

Y CV cronolegol yw'r un rydych fwyaf cyfarwydd ag ef yn ôl pob tebyg. Mae'r CV hwn yn rhestru swyddi yn ôl dyddiad, gan ddechrau gyda'r un ddiweddaraf, ac yn dangos enw pob cyflogwr, ble rydych wedi gweithio, y cyfnod y buoch yn gweithio yno, teitl(au) eich swyddi(i), cyfrifoldebau a chyflawniadau allweddol.

Manteision CV cronolegol yw:

  • gall fod yn hawdd iawn i'w gynhyrchu
  • fe'i cydnabuwyd ers blynyddoedd lawer fel y ffordd safonol o gynhyrchu CV
  • mae'n galluogi darpar gyflogwyr i weld yn gyflym iawn sut mae unigolyn wedi datblygu a'i gyfrifoldebau cynyddol.

Fodd bynnag, anfanteision CV cronolegol yw bod unrhyw fylchau yn eich cyflogaeth yn amlwg.

O ganlyniad, os ydych wedi newid swyddi yn aml, gall awgrymu ansefydlogrwydd a bydd angen egluro hynny, yn enwedig os ydych wedi newid proffesiwn neu gyfeiriad gyrfa. Hefyd, gyda CV cronolegol, nid yw bob amser yn hawdd nodi cyflawniadau allweddol neu sgiliau a all gael eu 'claddu' o dan deitlau swyddi gwahanol.

Y CV swyddogaethol

Mae CV swyddogaethol yn tynnu sylw at eich sgiliau a'ch cyflawniadau, a gyflwynir yn ôl y swyddogaeth neu'r cyfrifoldebau rydych wedi ymgymryd â nhw yn hytrach na swyddi unigol. Mae'r CV hwn yn dangos eich bod yn ymwybodol o ofynion y darpar gyflogwyr a'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Manteision y CV hwn yw:

  • gall dynnu sylw at eich sgiliau yn hytrach na newidiadau mewn swyddi
  • os nad yw eich profiad presennol neu ddiweddaraf yn gysylltiedig â'r swydd rydych yn gwneud cais amdani, mae'n eich galluogi i roi mwy o bwyslais ar gryfderau a phrofiad perthnasol o gyfnodau cynharach
  • gallwch grwpio cyflawniadau gwahanol gyda'i gilydd er mwyn cyfateb i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Yr anfanteision yw ei bod yn cymryd mwy o feddwl i baratoi CV swyddogaethol ac mae'n rhaid i chi sicrhau ei fod yn glir ac yn berthnasol i'r swydd a ddewiswyd heb edrych fel pe baech yn ceisio cuddio rhywbeth.

CV wedi'i dargedu

Mae CV wedi'i dargedu yn cyfateb hyd yn oed yn agosach ag anghenion cyflogwr penodol, a chaiff y sgiliau sydd eu hangen a'r dystiolaeth ohonynt eu nodi'n glir ar y dechrau, gyda manylion, dyddiadau ac ati yn dilyn. Mae'n cyfuno elfennau o'r CV cronolegol a'r CV swyddogaethol. Mae'r rhan fwyaf o'r rheini sy'n gwneud cais am swyddi rheoli yn defnyddio'r fformat hwn. Manteision y CV hwn yw:

  • mae'n canolbwyntio ar eich cryfderau yn syth
  • mae'n fwy tebygol o ennyn diddordeb y darllenydd
  • gallwch ei addasu i weddu i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani heb effeithio ar ansawdd
  • gallwch arwain y darllenydd yn y cyfeiriad rydych am fynd iddo – eich sgiliau a'ch cyflawniadau.

Yn yr un modd â'r CV swyddogaethau, anfanteision y CV hwn yw nad yw'n hawdd i'w baratoi. Mae'n rhaid newid y CV er mwyn sicrhau ei fod yn cyfateb i bob swydd, ac mae hynny'n cymryd amser, ymdrech a sgil.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 6 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.