Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Y cyfweliad

Cyfweliadau yw'r ffordd fwyaf cyffredin o lenwi swyddi gwag o hyd. Mae sawl math o gyfweliad y gellir gofyn i chi fynd iddo:

  • Wyneb yn wyneb: dyma'r math mwyaf cyffredin a gall fod ar ffurf cyfarfod un-i-un neu gyfres o gyfweliadau gydag aelodau gwahanol o staff.
  • Ffôn: mae'r cyfweliadau hyn yr un mor ffurfiol â chyfweliadau wyneb yn wyneb, felly bydd angen i chi baratoi'n dda ar eu cyfer.
  • Panel: byddwch yn cyfarfod â sawl cyfwelydd mewn un cyfweliad. Mae'n bwysig cadw cyswllt llygad gyda'r person sy'n siarad â chi. Ceisiwch beidio â cholli golwg ar bethau am fod aelodau'r panel yn gwneud nodiadau wrth i chi siarad.
  • Seiliedig ar gymhwysedd: mae cyfwelwyr yn gofyn cwestiynau sy'n ymwneud â'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Felly, bydd angen i chi wybod beth ydynt ac wedi paratoi rhai enghreifftiau o'ch profiadau i'w dangos.