Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1 Awgrymiadau ar gyfer y cyfweliad

Dyma rai awgrymiadau cychwynnol ar gyfer cyfweliadau:

  • Mae cyfwelwyr am i chi wneud cyfiawnder â chi eich hun. Maent yn gobeithio y byddwch yn ymgeisydd rhagorol ac y bydd yr amser a'r ymdrech sy'n gysylltiedig â chynnal y cyfweliad yn werth chweil.
  • Gall cyfwelwyr fod yn amhrofiadol neu'n nerfus hefyd. Eich lle chi yw eu helpu a gwneud iddynt deimlo'n gyfforddus.
  • Wrth wynebu panel o gyfwelwyr, dylech gyfeirio'r rhan fwyaf o'ch ymateb at y cyfwelydd sydd wedi gofyn y cwestiwn i chi, ond dylech sicrhau eich bod yn cael rhywfaint o gyswllt llygad gyda gweddill y panel hefyd.
  • Dangoswch eich bod yn derbyn y cyfwelydd fel person. Cofiwch, mae cyfwelwyr am gael eu hoffi ac maent yn gobeithio y bydd eich penodiad yn eu helpu gyda'u gwaith o ddydd i ddydd a'u gyrfa. Byddant yn gofyn iddyn nhw eu hunain, 'A allen ni gyd-dynnu?' ac 'A fyddai'r person hwn yn gefnogol?'.
  • Ceisiwch sicrhau cydbwysedd o ran blaengaredd. Dylai'r cyfweliad delfrydol lifo fel sgwrs, gan gyrraedd dyfnderoedd newydd wrth i'r gydberthynas rhwng y ddau barti ddatblygu. Ni ddylai'r naill na'r llall ddominyddu'r drafodaeth yn seicolegol. Serch hynny, chi (yr ymgeisydd) ddylai wneud y rhan fwyaf o'r siarad. Chi fydd yn pennu cynnwys y cyfweliad i bob pwrpas, tra bod y cyfwelydd yn gosod y fformat.
  • Gall ychydig eiliadau o ddistawrwydd mewn cyfweliad ymddangos fel tragwyddoldeb. Peidiwch â mynd i banig a theimlo eich bod yn gorfod ymateb yn rhy gyflym, efallai mewn ffordd afresymegol. Llenwch fwlch meddwl gyda sylwadau fel 'Dyma gwestiwn diddorol – mae angen eiliad neu ddau arnaf i feddwl am hynny’.
  • Ceisiwch fod yn gadarnhaol bob amser o ran yr hyn rydych yn ei ddweud a pheidiwch byth â beirniadu cyflogwr blaenorol.
  • Ceisiwch osgoi bod yn rhy agored.
  • Pan ofynnir i chi a oes gennych unrhyw gwestiynau, gall fod yn ddefnyddiol gofyn am gynlluniau'r busnes yn y dyfodol. Os yw'r cyfweliad wedi cwmpasu hynny eisoes, manteisiwch ar y cyfle i ychwanegu gwybodaeth berthnasol amdanoch chi eich hun nad ydych wedi cael digon o gyfle i'w chyfleu.

Mae'r holl waith ymchwil sydd wedi'i wneud ar gyfweliadau fel dull dewis yn rhoi cipolwg pwysig ar y broses i ymgeiswyr. Er enghraifft:

  • Mae rhai cyfwelwyr yn gwneud penderfyniad ynghylch ymgeiswyr o fewn y pedwar munud cyntaf, ac nid yw'r wybodaeth ffeithiol a roddir wedi hynny yn ddigon weithiau i ddylanwadu arnynt. Mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif: mae'r atebion cychwynnol yn hollbwysig.
  • Mae cyfwelwyr yn fwy tebygol o gael eu dylanwadu gan wybodaeth neu ymddygiad negyddol ar ran yr ymgeisydd o gymharu â gwybodaeth neu ymddygiad cadarnhaol. Mae cyfweliadau yn dueddol o eithrio yn hytrach na chynnwys.
  • Efallai na all cyfwelwyr asesu nodweddion personoliaeth ymgeiswyr unigol gydag unrhyw ddilysrwydd, ond maent yn gwneud dyfarniadau ac asesiadau cyson iawn rhwng ymgeiswyr. Mae hyn yn awgrymu bod perfformiad da mewn cyfweliad yn debygol o greu argraff dda.
  • Gall iaith corff ymgeisydd mewn cyfweliad (er enghraifft, diffyg cyswllt llygad) fod yn bwysicach na phrofiad neu gymwysterau o ran penderfynu ar y canlyniad.
  • Bydd cyfwelwyr bob amser yn gwneud dyfarniadau am ymgeiswyr yn seiliedig ar eu dyfarniadau am ymgeiswyr blaenorol, felly mae trefn cyfweliadau yn bwysig ynddi'i hun. Os rhoddir dewis i chi, ewch gyntaf. Gallwch bennu'r safon y caiff yr ymgeiswyr eraill eu dyfarnu yn ei herbyn.