Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.3 Cyn eich cyfweliad

Dyma rai pethau y dylech feddwl amdanynt cyn eich cyfweliad:

  • Ymchwiliwch i'r swydd a'r cyflogwr yn drylwyr ymlaen llaw. Os yw'n bosibl, ceisiwch ddod o hyd i rywbeth am y bobl sy'n eich cyfweld.
  • Adolygwch eich CV neu ailddarllenwch eich ffurflen gais.
  • Ystyriwch pam eich bod wedi cael eich gwahodd am gyfweliad. Beth yw eich pwyntiau gwerthu unigryw? Mae'r cwestiynau'n debygol o ganolbwyntio ar y canlynol:
    • eich cyflawniadau
    • eich cymhellion ar gyfer gwneud cais
    • y cyfraniad rydych yn debygol o'i wneud.
  • Paratowch drwy drefnu eich deunydd ymlaen llaw.
  • Casglwch gymaint o enghreifftiau â phosibl o bethau rydych wedi'u gwneud sy'n dangos eich sgiliau'n glir. Darllenwch y cwestiynau anodd yn Adran 8.8 ac ewch ati i ymarfer rhai o'r atebion ar goedd.
  • Meddyliwch am y sgiliau a allai fod yn bwysig er mwyn perfformio'n dda yn y swydd.
  • Meddyliwch am adegau yn y gorffennol pan rydych wedi dangos y galluoedd sydd eu hangen, e.e. prosiectau llwyddiannus; rhyngweithio llwyddiannus â phobl eraill; darbwyllo cynulleidfa anodd; dadansoddi swm sylweddol o wybodaeth, ac ati. Peidiwch â chyfyngu'ch hun i enghreifftiau sy'n gysylltiedig â swyddi – efallai bod gennych dystiolaeth ardderchog sy'n ymwneud â'ch astudiaethau, eich hobïau neu weithgareddau eraill.
  • Beth yw eich gwendidau a beth rydych yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad amdano?
  • Pam na fyddech yn cyflogi eich hun? Meddyliwch am wrthddadleuon argyhoeddiadol.
  • Ewch ati i ymarfer yr atebion sy'n ymwneud â meysydd gwan. Gofynnwch i gynghorydd gyrfaoedd neu ffrind neu gydweithiwr eich helpu. Ewch ati i ymarfer ar goedd, recordiwch yr atebion a gwrandewch arnynt eto.
  • Cynlluniwch amseroedd teithio a chyrraedd ac, os yw'n bosibl, gwnewch ymarfer ffug.
  • Penderfynwch beth i'w wisgo. Dangoswch eich bod yn gwybod 'rheolau' cyfweliadau drwy wisgo'n smart, sgleinio eich esgidiau ac ati. Mae gwisg geidwadol yn debygol o wneud argraff well na gwisg liwgar. Ewch ati i wisgo'r wisg gyflawn rai diwrnodau ymlaen llaw fel bod amser gennych i newid eich cynlluniau os nad yw'n teimlo'n iawn. Gwisgwch yn briodol i'r diwylliant. Os nad ydych yn siŵr am hyn, cymerwch gipolwg ar lenyddiaeth neu wefan y cwmni i gael syniad o'r ffordd y mae pobl yn gwisgo. Os nad oes unrhyw lenyddiaeth addas ar gael, gallech ffonio a gofyn i'r person ar y switsfwrdd neu ysgrifennydd y person sy'n cyfweld â chi.
  • Ewch ati i baratoi rhai cwestiynau y byddech yn hoffi eu gofyn. Gall paratoi cwestiynau ddangos, er enghraifft, fod gennych ddiddordeb mewn datblygu o fewn y sefydliad a'ch bod yn awyddus i wneud hynny, e.e. 'Sut y caiff perfformiad a datblygiad eu hasesu?' neu 'Sut mae'r swydd yn debygol o ddatblygu yn ystod y ddwy flynedd nesaf?'.