Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2 Dysgu sut i fireinio eich syniadau

Ni waeth pa mor glir ydych chi am yr opsiynau gwaith rydych yn eu ffafrio, mae'n ddefnyddiol ystyried pa mor dda maent yn cyfateb i chi fel person, eich amgylchiadau presennol a'ch cynlluniau bywyd. Yn yr adran hon, fe'ch gwahoddir i ddysgu mwy am un math o waith a'r hyn y byddai'n ofynnol i chi ei wneud.

Y ffordd orau o wneud hyn yw os gallwch nodi math penodol o waith neu lwybr gyrfa penodol sydd o ddiddordeb i chi. Er enghraifft, efallai eich bod wedi nodi gyrfa yn y sector manwerthu fel rhywbeth a fyddai'n addas i chi. Fel arall, efallai bod gennych ddiddordeb mewn gwaith gwirfoddol ac yn teimlo y byddai gweithio i fanc bwyd, neu elusen arall sy'n helpu pobl, yn werth chweil. Ni waeth sut rydych yn teimlo, mae angen i chi wneud rhywfaint o ymchwil ar y cyfleoedd sydd ar gael i wneud y math hwn o waith.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen i chi wybod ble i edrych, ac mae'n bosibl na fydd cymorth bob amser yn dod o'r lle amlycaf. Mae Tabl 1 yn rhestru'r bobl neu'r sefydliadau y gallech eu defnyddio, a'r wybodaeth y gallech ofyn amdani.

Tabl 1 Dod o hyd i wybodaeth
FfynhonnellDisgrifiad o wybodaeth
Colofnau busnes papurau newydd Gallant gynnwys erthyglau sy'n rhagfynegi pa sectorau cyflogaeth fydd yn recriwtio neu sy'n dirywio.
Eich cysylltiadau lleol Efallai y byddant yn clywed am swyddi lleol ac, os ydynt yn gwybod beth rydych yn chwilio amdano, gallant roi gwybod i chi.
Gwefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol Gwefan y llywodraeth sy'n cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau.
Y Ganolfan Byd Gwaith Yn ogystal â swydd wag â thâl, mae ganddi wybodaeth am waith gwirfoddol a'ch hawliau o ran chwilio am waith.
Ffrindiau a theulu Efallai y bydd ganddynt wybodaeth uniongyrchol am y math o waith rydych am ei wneud, yn gwybod a yw eu sefydliadau yn recriwtio neu'n diswyddo pobl mewn rhai meysydd, neu'n gwybod am gysylltiadau da y gallant eich cyflwyno iddynt.
Tudalennau swyddi papurau newydd lleol Maent yn rhoi syniad da o'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano ar gyfer mathau penodol o waith, a pha mor aml y mae'r swyddi hynny yn cael eu hysbysebu.
Cylchgronau sefydliadau proffesiynol Maent yn hysbysebu swyddi sy'n benodol i'w proffesiwn a gall hyn rhoi syniad da i chi o arbenigeddau yn y maes.
Gwefannau sefydliadau proffesiynol Maent yn egluro'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y math o waith a'r hyfforddiant sydd ar gael.
Gwefannau sefydliadau Mae llawer ohonynt yn cynnwys adran 'gyrfaoedd' neu 'gweithio gyda ni' sy'n nodi'r math o amgylchedd gwaith a gynigir a'r mathau o swyddi sydd ar gael.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Mae'n rhoi gwybodaeth am swyddi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac yn dadansoddi swyddi gweithlu'r DU yn ôl sector. Mae hefyd yn edrych ar newidiadau yn y diwydiant.
Rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol Ffynhonnell wybodaeth newydd sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â swyddi a sefydliadau.
Rhaglenni radio Gall rhaglenni lleol gyflwyno adroddiadau ar fusnesau newydd sy'n cael eu sefydlu yn yr ardal.
Hysbysfyrddau cymunedol O bryd i'w gilydd, byddant yn nodi hysbysebion ar gyfer swyddi lleol, fel gweithredu fel clerc i'r cyngor.
Siambr Fasnach Leol Gall cyfarfod â phobl drwy'r rhwydwaith hwn olygu y byddwch yn clywed am swyddi nad ydynt yn cael eu hysbysebu. Mae hyn yn wir am lawer o rwydweithiau proffesiynol.

Gweithgaredd 9

Timing: Caniatewch tua 10 munud

Yn y gweithgaredd hwn, bydd angen i chi ddewis tair o'r ffynonellau gwybodaeth posibl hyn y gallwch eu defnyddio nawr. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych, ond gall olygu mai chwilio ar y rhyngrwyd yw'r unig opsiwn sydd ar gael i chi ar hyn o bryd. Gallwch archwilio ffynonellau defnyddiol eraill ar adeg arall.

Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am y tair ffynhonnell rydych am eu defnyddio a pham. Yna nodwch eich meddyliau yn y blwch isod. Er enghraifft, efallai bod gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector manwerthu ac felly'n penderfynu edrych ar wefannau archfarchnadoedd neu siopau adrannol. Efallai yr hoffech gadarnhau hefyd a oes cylchgrawn arbenigol ar gael ar gyfer y sector manwerthu a mynd i'ch llyfrgell leol i edrych ar un neu ddau gopi.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Ar ddiwedd y gweithgaredd hwn, efallai y gwnaethoch ganfod mai chwilfrydedd pur oedd yn gyfrifol am y ffaith eich bod wedi dewis ffynonellau penodol, am eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo, neu am eu bod yn hawdd neu'n ymarferol, neu'n bleserus i chi mewn rhyw ffordd.

Cyn i chi fynd at eich ffynonellau am wybodaeth, mae'n hollbwysig eich bod yn gwybod beth rydych am ei ganfod o'r cychwyn cyntaf. Bydd y gweithgaredd nesaf hwn yn eich helpu i drefnu eich syniadau.