Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.5 Opsiynau ehangach

Mae'n gyffredin, wrth feddwl am swydd, i'w chysylltu ag ymrwymiad llawn amser i un sefydliad dros gyfnod parhaus. Fodd bynnag, nid dyma'r unig ffordd o weithio bellach, ac un ffordd o feddwl yn hyblyg am y math o waith rydych am ei wneud yw ystyried patrymau gwaith gwahanol. Efallai y bydd rhai o'r rhain yn gweddu'n dda i'ch ymrwymiadau presennol. Gall eraill fod yn gam ymlaen at y math o waith rydych am ei wneud.

Mae'r rhestr isod yn cynnwys gwahanol fathau o batrymau gwaith. Wrth i chi fwrw golwg drosti, gofynnwch i chi eich hun a allai unrhyw un o'r opsiynau hyn weithio i chi. Mae rhai o'r termau a ddefnyddir yn gyfreithiol neu'n dechnegol ac yn bwysig i'w deall, felly cânt eu disgrifio i chi.

  1. Mae gwaith rhan amser yn golygu gweithio llai o oriau bob wythnos o gymharu â swydd llawn amser gyfatebol. Fel arfer, mae gan swyddi o'r fath batrwm gwaith pendant, fel bob bore, neu dri diwrnod penodol bob wythnos. Mae gwaith rhan amser yn cynnig sawl mantais ond gall fod yn arbennig o ddefnyddiol i'ch galluogi i fwrw ymlaen i feithrin sgiliau a phrofiad tra rydych yn cyflawni ymrwymiadau eraill.
  2. Fel arfer, mae gwaith dros dro neu waith contract yn golygu swydd sydd â dyddiad terfyn, yn wahanol i swydd barhaol sydd â chontract penagored. Gall roi profiad a chysylltiadau gwerthfawr i chi mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Gall hefyd gynnig cyfle gwerthfawr i chi gael blas ar amrywiaeth o swyddi i'ch helpu i fod yn gliriach ynghylch y math o waith sydd fwyaf addas i chi. Mantais arall yw eich bod yn cael eich troed yn nrws sefydliad sydd o ddiddordeb i chi. Gallai wedyn fod yn bosibl gwneud cais am rolau parhaol.
  3. Mae gwaith contract dim oriau yn gontract rhwng cyflogwr a gweithiwr lle nad yw'r cyflogwr yn gwarantu nifer ofynnol o oriau gwaith a lle nad oes yn rhaid i'r cyflogai dderbyn unrhyw waith a gynigir. Mae hawliau cyflogaeth statudol yn gymwys i'r cyflogai o hyd. Yn amlwg, mae'r math hwn o gontract yn rhoi hyblygrwydd i'r ddau barti, a all fod yn addas i gyflogai weithiau - yn dibynnu ar ei amgylchiadau.
  4. Mae cyflogai sy'n gweithio gartref yn rhywun a gyflogir gan sefydliad ond sy'n gweithio gartref am ei wythnos waith gyfan neu ran o'i wythnos waith.
  5. Mae hunangyflogedig yn golygu gweithio fel gweithiwr llawrydd, drosoch chi eich hun, neu redeg eich busnes eich hun, yn hytrach na gweithio i gyflogwr. Mae bod yn hunangyflogedig yn cynnig cyfleoedd ac yn cyflwyno risgiau. Mae'n fath o waith mwyfwy cyffredin, a allai neu na allai fod yn addas i chi.
  6. Mae gweithio hyblyg yn rhywbeth y gallwch wneud cais amdano os ydych eisoes yn cael eich cyflogi a'ch bod wedi gweithio i'ch cyflogwr yn barhaus am y 26 wythnos diwethaf (mae hyn yn gywir ar adeg ysgrifennu'r cwrs, ond dylech gadarnhau pa ddeddfwriaeth gyfredol sy'n gymwys lle rydych yn gweithio). Gall fod ar sawl ffurf, ond gall olygu:
    • oriau hyblyg – dewis pryd i ddechrau a gorffen gweithio o fewn terfynau cytûn
    • oriau blynyddol – gweithio nifer penodol o oriau dros flwyddyn ond gyda rhywfaint o hyblygrwydd o ran pryd rydych yn gweithio.
  7. Fel arfer, mae gwaith portffolio yn cyfeirio at waith sy'n golygu ennill incwm o amrywiaeth o ffynonellau. Er enghraifft, gallech weithio ar gontractau llawrydd neu fel cyflogai rhan amser ar gyfer sawl sefydliad, a rhedeg busnes yr un pryd efallai.
  8. Gall gweithio mewn gwlad arall fod yn opsiwn deniadol iawn os ydych ar gam yn eich bywyd lle rydych yn teimlo'n rhydd i fyw a gweithio i ffwrdd oddi wrth eich mamwlad. Efallai eich bod yn awyddus i deithio a gweld cynifer o wledydd gwahanol ag y gallwch? Efallai y credwch y bydd profiad gwaith dramor yn eich helpu i sicrhau eich swydd ddewisol pan fyddwch yn dychwelyd, neu y gallai gwella eich sgiliau iaith fod yn bwysig i'ch cynlluniau yn yr hirdymor.

Ar ôl dysgu am yr opsiynau posibl o ran gwaith, mae angen i chi nawr ystyried pa rai allai weithio i chi, ac mae'r adran nesaf yn canolbwyntio ar hyn.