Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.6 Gwneud dewisiadau a dal ati

Ar hyn o bryd, efallai eich bod yn teimlo wedi'ch gorlethu gan yr holl opsiynau gwaith posibl, ac mae hynny'n ddealladwy. Gall y gwaith a'r myfyrio rydych yn eu gwneud ar y cwrs hwn deimlo'n heriol ar brydiau. Efallai bod llawer gormod o opsiynau yn eich tŷb chi, sy'n gwneud i chi deimlo'n ansicr. Er eich bod yn gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, nid yw'r teimladau hyn o reidrwydd yn beth gwael – gallant fod yn arwydd eich bod yn bwrw ati â'r newidiadau rydych am eu gwneud.

Felly, os byddwch yn teimlo'n ddigalon neu os na fydd yr awydd gennych i barhau i archwilio'r opsiynau, gallai rhai o'r awgrymiadau canlynol helpu:

  • Rhowch flaenoriaeth i'r opsiynau y credwch y gallech wneud iddynt ddigwydd o fewn y tri i chwe mis nesaf yn unig.
  • Ewch ati i raddio'r opsiynau – rhowch 3 phwynt iddynt os ydynt yn apelio'n fawr, 2 bwynt os oes ganddynt rywfaint o apêl a dim ond 1 pwynt os nad ydynt yn apelio i chi. Yna canolbwyntiwch ar yr un neu ddau opsiwn â'r sgorau uchaf.