6.8 Rhwydweithio
Efallai eich bod wedi sylwi bod sawl un o'r ffynonellau gwybodaeth a restrir yn Nhabl 1 yn cynnwys rhwydweithiau – grŵp o bobl ryng-gysylltiedig sydd â rhywbeth yn gyffredin; er enghraifft, cysylltiadau lleol, ffrindiau a theulu, a gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol.
Mae gwahanol fathau o rwydweithiau, y gall pob un ohonynt eich helpu i archwilio opsiynau a chyflawni eich nodau gyrfa.
Rhwydweithiau personol
Mae eich rhwydwaith personol yn debygol o gynnwys aelodau o wahanol rannau o'ch bywyd:
- eich teulu
- ffrindiau
- cysylltiadau addysgol
- grwpiau hobïau neu ddiddordebau
- pobl sydd mewn sefyllfa debyg neu sy'n arddel safbwyntiau tebyg.
Yn ogystal â'ch helpu i ddod o hyd i waith, gall rhwydweithiau o'r fath roi cymorth mwy cyffredinol. Weithiau, efallai mai'r cyfan fydd ei angen arnoch yw anogaeth i deimlo'n gadarnhaol am eich dyheadau a'ch cyflawniadau, neu efallai y byddech yn cael budd o glywed am brofiadau pobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i chi.
Rhwydweithiau sefydliadol
Bydd gan y rhan fwyaf o sefydliadau nifer o rwydweithiau anffurfiol o bobl â gwerthoedd tebyg, a all ymddiried yn ei gilydd a helpu eich gilydd i gyflawni pethau. Os ydych yn dibynnu'n gyfan gwbl ar strwythurau ffurfiol, rydych yn colli allan ar gyfleoedd, felly mae'n ddefnyddiol i chi ymuno â rhwydweithiau mwy anffurfiol neu eu datblygu. Nodwyd tri math o rwydwaith sefydliadol:
- Y rhwydwaith 'cyngor' – y bobl allweddol y mae unigolion eraill yn troi atynt am gyngor.
- Y rhwydwaith 'ymddiriedaeth' – lle mae gan bobl ddiddordebau cyffredin a digon o ymddiriedaeth i gefnogi ei gilydd yn ystod argyfwng.
- Y rhwydwaith 'cyfathrebu' (a elwir yn aml fel 'y winwydden') – lle mae pobl yn siarad â'i gilydd yn rheolaidd am faterion gwaith.
Gallwch hefyd feddwl am rwydweithiau sefydliadol ehangach sy'n cynnwys cwsmeriaid, cyflenwyr, cystadleuwyr, partneriaid, cyrff llywodraethol, undebau llafur neu gymdeithasau proffesiynol.
Rhwydweithiau galwedigaethau penodol
Mae rhwydweithiau proffesiynol yn gweithredu y tu allan i sefydliadau. Er enghraifft, os ydych yn aelod o sefydliad proffesiynol, fel Sefydliad Siartredig Plymwyr a Pheirianwyr Gwresogi, yna gallwch gysylltu â phobl eraill yn eich proffesiwn p'un a ydych yn gweithio gyda nhw ai peidio.
Nid yw pob rhwydwaith galwedigaethol yn gysylltiedig â sefydliadau proffesiynol. Er enghraifft, gall arweinydd clwb colli pwysau fod yn rhan o rwydwaith rhanbarthol o arweinwyr sy'n cyfarfod i gael hyfforddiant neu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion.
I bobl hunangyflogedig, mae rhwydweithiau ar gael ar gyfer busnesau lleol sy'n cyfarfod i gefnogi ei gilydd. Weithiau, bydd pobl sy'n gwneud gwaith gwirfoddol tebyg yn cyfarfod yn ffurfiol neu'n anffurfiol i rannu syniadau.
Nawr eich bod wedi dysgu am wahanol fathau o rwydweithiau traddodiadol, mae'n bryd i chi ddechrau meddwl am eich rhwydweithiau eich hun.
Gweithgaredd 15
Ar y cwrs hwn, dylech ganolbwyntio ar y cysylltiadau a allai eich helpu i ddatblygu eich gyrfa – fel arall, gallai fod yn anodd i chi reoli eich rhwydwaith oherwydd ei faint. Er hynny, byddwch yn ofalus pwy rydych yn ei hepgor oherwydd efallai na fydd yn amlwg i ddechrau bod cyswllt yn ddefnyddiol. Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei wybod amdanynt a'r hyn maent yn ei wneud cyn i chi eu hepgor.
Lluniwch restrau o bobl o dan y penawdau canlynol:
- rhwydweithiau personol
- eich teulu
- ffrindiau
- cysylltiadau addysgol
- grwpiau hobïau neu ddiddordebau
- pobl sydd mewn sefyllfa debyg neu sy'n arddel safbwyntiau tebyg
- rhwydweithiau sefydliadol
- rhwydweithiau galwedigaethau penodol.
Diwedd y Cwestiwn
Sylwadau
Nid yw'n bwysig p'un a ydych wedi llunio rhestr hir neu fer o dan y categorïau gwahanol – os ydych wedi llunio un o gwbl. Bydd hyn yn dibynnu'n gyfan gwbl ar ba bwynt rydych wedi'i gyrraedd yn eich bywyd. Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod wedi dechrau meddwl am fapio eich rhwydweithiau.
Mae'n bwysig peidio ag anghofio am rwydweithiau ar-lein. Bydd hyn yn fwy neu'n llai amlwg yn eich bywyd yn dibynnu ar sut rydych yn defnyddio'r rhyngrwyd a'ch teimladau ynghylch rhannu gwybodaeth ar-lein. Pa bynnag sefyllfa rydych ynddi, bydd yr adran nesaf yn rhoi blas i chi o'r hyn sydd ar gael.