Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Pwy ydw i?

Bydd gweithgareddau 1 a 2 yn eich helpu i lunio trosolwg o'ch bywyd hyd yma, ac i ystyried sut y gwnaeth eich hanes cynnar gyfrannu ato.

Gweithgaredd 1

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Rhan 1

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn defnyddio'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   i lunio 'llinell bywyd'. Gall y llinell bywyd hon eich helpu i wneud y canlynol:

  • ystyriwch batrwm eich bywyd
  • casglu gwybodaeth a all ddylanwadu ar eich dewisiadau yn y dyfodol
  • darganfod agweddau ar eich hun y gallech fod am eu datblygu neu eu newid.

Gan ddefnyddio Ffigur 1 fel canllaw, nodwch ddigwyddiadau allweddol yn eich bywyd a all gynnwys addysg, gwaith, diddordebau, priodas, plant ac ati, er mwyn dangos yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau ar wahanol adegau o'ch bywyd.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Enghraifft o linell bywyd

Gall yr ymarfer llinell bywyd ddeffro llawer o emosiynau mewn rhai pobl wrth iddynt fynd ati i adolygu eu profiadau. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad am unrhyw deimladau anodd gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo.

Rhan 2

Pan fyddwch wedi llunio llinell bywyd sy'n adlewyrchu eich prif brofiadau, meddyliwch am y teimladau a ddeffröwyd gan bob profiad ac yna atebwch y cwestiynau hyn, gan nodi unrhyw feddyliau neu syniadau sydd gennych:

  • Beth mae'r llinell bywyd yn ei ddweud amdanoch chi a'r ffordd rydych wedi byw eich bywyd?
  • A oes themâu amlwg sy'n rhedeg drwy eich bywyd?
  • Yn gyffredinol, a yw'r patrwm ar i fyny neu ar i lawr? A yw'n sefydlog neu'n newidiol? Pa fathau o ddigwyddiadau oedd yn gysylltiedig â'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau?
  • Yn gyffredinol, a yw'r uchafbwyntiau yn gysylltiedig â'ch dewisiadau eich hun a'r isafbwyntiau yn gysylltiedig â'r annisgwyl? A oes rhai profiadau rydych yn ymdopi â nhw'n rhwydd a rhai eraill rydych yn eich cael hi'n anodd ymdopi â nhw?
  • A oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu?

Er enghraifft, datgelodd y gweithgaredd hwn i un person fod pob un o'i huchafbwyntiau yn gysylltiedig â chael canmoliaeth gan eraill a bod ei hisafbwyntiau'n gysylltiedig â symudiadau daearyddol. Sylweddolodd rhywun arall fod pob un o'r newidiadau cadarnhaol o ran ei waith yn dilyn siomedigaethau yn ei fywyd preifat, a bod pob siomedigaeth wedi'i ysgogi i newid ac wedi cynnig cyfleoedd iddo. Cydnabu trydydd person fod rhywun arall wastad yn gweithredu fel mentor.

A fyddai rhywun sy'n eich adnabod yn dda wedi llunio eich llinell bywyd yn wahanol? Efallai y byddai'n ddiddorol gofyn i o leiaf un person arall lunio eich llinell bywyd er mwyn cymharu ei linell ef a'ch un chi.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 2

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Rhan 1

Nod y gweithgaredd hwn yw tanio atgofion manylach o'ch plentyndod a'ch arddegau. Gwnewch nodiadau mewn ymateb i'r awgrymiadau isod. Efallai y bydd y gweithgaredd yn gwneud i chi fod eisiau diwygio eich llinell bywyd neu ychwanegu ato, wrth i chi ystyried eich profiadau yn fanylach.

  1. Dylanwadau teuluol: os yw'n gymwys, dywedwch rywbeth am y dylanwadau a gawsant arnoch o ran eich galwedigaeth. Er enghraifft, a oedd un o'ch rhieni yn fecanig neu un arall yn athro?
  2. Plentyndod cynnar: beth rydych yn ei gofio am eich plentyndod cynnar? Er enghraifft, yr ardal a'r tŷ roeddech yn byw ynddynt, ffordd o fyw'r teulu, y gweithgareddau y gwnaethoch gymryd rhan ynddynt, y profiadau a gawsoch, yr hyn roedd eich teulu yn ei ddisgwyl ohonoch, eich rôl yn y teulu.
  3. Blynyddoedd ysgol: rhestrwch yr ysgolion yr aethoch iddynt ynghyd â dyddiadau, y pynciau roeddech yn rhagori ynddynt ac yn eu mwynhau, sut gwnaethoch gyd-dynnu â phlant eraill, sut roedd eich athrawon yn eich gweld chi, sut roeddech chi'n gweld eich athrawon, ac unrhyw chwaraeon neu weithgareddau y gwnaethoch gymryd rhan ynddynt yn yr ysgol.
  4. Arddegau: pa weithgareddau roeddech yn rhagori ynddynt neu'n eu mwynhau? Sut roedd eich ffrindiau yn eich gweld chi? Sut berson oeddech yn eich arddegau? Beth roeddech am fod?
  5. Unrhyw addysg neu hyfforddiant pellach: beth wnaethoch chi? Sut gwnaethoch ei ddewis? Sut hwyl gawsoch chi?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rhan 2

Nawr treuliwch rywfaint o amser yn ystyried yr hyn y mae eich nodiadau yn ei ddweud amdanoch – pa fath o berson ydych, a pham, a sut gwnaethoch gyrraedd lle rydych heddiw. Efallai y gwelwch fod themâu yn ymddangos, fel agweddau cryf ar eich personoliaeth neu dalentau a diddordebau penodol. Efallai bod gennych amryw o alluoedd ond y gwnaethoch benderfynu datblygu un yn hytrach na'r llall – gallu ym maes chwaraeon yn hytrach na thalent artistig, efallai. O edrych yn ôl, allech chi fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol? Gwnewch nodyn o unrhyw wybodaeth rydych wedi'i chanfod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 1– da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.