Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Pa brofiadau dysgu rwyf wedi'u cael?

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod profiad gwaith yn bwysig iawn wrth ystyried cyfeiriad eich gyrfa yn y dyfodol, ond mae'n hawdd cymryd eich hun yn ganiataol a pheidio â chydnabod yr amrywiaeth eang o alluoedd rydych wedi'u datblygu drwy gydol eich bywyd. Er enghraifft, pa hobïau sydd gennych neu sydd wedi bod gennych yn y gorffennol? Nid pawb sy'n gallu troi eu hobi yn yrfa – er bod nifer gynyddol o bobl yn gwneud hynny – ond gallai'r gweithgareddau rydych yn eu gwneud yn eich amser rhydd eich helpu i ddangos galluoedd a all fod yn ddefnyddiol yn y gweithle.

Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, rhifedd, technoleg gwybodaeth, rheoli amser a rhuglder mewn iaith dramor i gyd yn enghreifftiau o sgiliau (ac mae'n siŵr y gallwch feddwl am lawer mwy) a all gael eu datblygu drwy weithgareddau hamdden neu astudiaethau ffurfiol ac anffurfiol ac yna'u defnyddio yn y gweithle. Fel arfer, gelwir y rhain yn 'sgiliau trosglwyddadwy' a chânt eu caffael yn aml drwy brofiadau. Nid oes angen i chi feddu ar gymhwyster ffurfiol o reidrwydd, dim ond rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod gennych y sgiliau hynny.

Byddwch wedi dysgu llawer iawn drwy eich gwaith (tâl neu ddi-dâl) a phrofiadau hamdden ac astudio drwy sylwi sut rydych yn teimlo am dasgau gwahanol, neu pa mor dda rydych yn cyflawni gweithgareddau penodol o gymharu â phobl eraill. Efallai eich bod yn dysgu gan bobl eraill hefyd, naill ai drwy brosesau gwerthuso ac asesu ffurfiol neu drwy sylwadau ac ymatebion anffurfiol.

Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich profiadau yn y gwaith a thu allan i'r gwaith, a bydd yn ddefnyddiol wrth fynd ati i ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Gweithgaredd 4

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Rhan 1

  1. Rhestrwch y swyddi rydych wedi'u cael, ynghyd â dyddiadau. Os mai dim ond rhywfaint o brofiad o gyflogaeth â thâl sydd gennych, os o gwbl, gwnewch restr debyg o brofiadau di-dâl neu wirfoddol; er enghraifft, helpu plant i ddarllen mewn ysgol, darparu gwasanaeth 'Pryd ar Glud', codi arian i elusen neu gymryd rhan mewn prosiect cadwraeth. Gallwch hefyd ddefnyddio profiadau astudio ffurfiol neu anffurfiol a hobïau yn y gweithgaredd hwn.
  2. Ar gyfer pob swydd, nodwch sut y daethoch i weithio ynddi. A wnaethoch wirfoddoli neu a gawsoch eich cyfeirio ato? Os oedd gennych rywfaint o ddewis, pa ffactorau oedd yn ymddangos yn bwysig wrth benderfynu ei derbyn?
  3. Ar gyfer pob swydd, nodwch yr amrywiaeth o dasgau neu'r hyn yr oedd yn rhaid i chi ei wneud.
  4. A oedd yn rhaid i chi ddelio ag unrhyw anawsterau?
  5. Pa dasgau neu weithgareddau oedd yn apelio fwyaf a lleiaf, roeddech yn eu mwynhau fwyaf a lleiaf, neu a oedd fwyaf neu leiaf gwerth chweil? Pam?
  6. Beth oedd eich cryfderau a'ch gwendidau yn eich barn chi (ac ym marn pobl eraill)?
  7. Beth oedd eich cyflawniadau a'ch llwyddiannau penodol?
  8. Beth oeddech chi'n ei ystyried yn fethiannau, neu'n bethau y gallech fod wedi'u gwneud yn well?
  9. Pa mor dda y gwnaethoch gyd-dynnu â phobl eraill?
  10. Beth oedd eich arddull gweithio?
  11. A oeddech yn cael eich adnabod am wneud pethau penodol?
  12. Beth oeddech chi'n fwyaf balch ohono?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rhan 2

Edrychwch yn ôl ar yr hyn rydych wedi'i ysgrifennu. Allwch chi weld patrwm penodol o gryfderau neu wendidau? Ydych chi'n mwynhau rhai pethau yn fwy nag eraill? A yw pobl eraill yn troi atoch am help gyda phethau penodol? Allwch chi nodi galluoedd penodol? Ydych chi'n adnabod unrhyw sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau penodol? Nodwch unrhyw beth sy'n arbennig o bwysig yn eich barn chi.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 3 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.