Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Pa ffactorau sy'n fy helpu ac yn fy llesteirio?

Yn sgil yr holl waith rydych wedi'i wneud hyd yma ym Mloc 1, dylai fod gennych syniad da nawr o'ch galluoedd, y rolau rydych yn eu chwarae a'r hyn rydych yn ei hoffi ac yn ei gasáu. Os na, cymerwch gam yn ôl ac adolygu'r dystiolaeth rydych wedi'i chasglu hyd yma. Meddyliwch eto am yr hyn rydych yn ei wybod, yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn rydych yn mwynhau ei wneud neu'n ei wneud yn dda.

Y cam nesaf yw dwyn y wybodaeth rydych wedi'i chasglu ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yn eich bywyd nawr. Gallwch gychwyn arni drwy lunio rhestr o ffactorau cadarnhaol a negyddol a all helpu neu lesteirio eich cynlluniau. Bydd y gweithgaredd nesaf yn rhoi rhagor o gyngor ac arweiniad i chi ar sut i wneud hyn.

Gweithgaredd 7

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Lluniwch restr o bwyntiau da a gwael am eich sefyllfa gartref ac yn y gwaith. Nid ydym yn gofyn i chi lunio barn yma, dim ond nodi cynifer o bwyntiau ag y gallwch o dan y penawdau 'Cadarnhaol' a 'Negyddol' ar gyfer cartref a gwaith.

Mater i chi yw penderfynu pa bwyntiau i'w cynnwys, a ph'un a ydynt yn rhai cadarnhaol neu negyddol. Er enghraifft, roeddwn i'n arfer gweithio gyda rhywun a oedd yn byw 30 milltir i ffwrdd o'r gwaith, tra roeddwn i'n byw o fewn pellter cerdded. Gwrthododd fyw yn agosach oherwydd roedd yn casáu'r syniad o fyw yn agos at ei waith, tra roeddwn i'n casáu'r syniad o dreulio cymaint o amser bob dydd yn eistedd mewn traffig. Nid oedd yr un ohonom yn gallu deall penderfyniad y llall, felly roedd rhywbeth a fyddai'n gadarnhaol i mi yn rhywbeth negyddol iddo fe ac i'r gwrthwyneb.

Os oes gennych syniad eisoes o'r hyn rydych am ei wneud yn y dyfodol, gall hyn eich helpu i benderfynu a yw'r ffactorau a nodir gennych yn gadarnhaol neu'n negyddol mewn perthynas â'ch cynlluniau. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad oes gennych syniad clir o'r hyn rydych am ei wneud, gall meddwl am y ffactorau sy'n ymddangos yn bwysig i chi o ran eich bywyd gwaith a chartref a'u rhestru eich helpu i ddeall beth allai eich helpu neu eich llesteirio wrth i chi gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cadarnhaol

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Negyddol

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 5 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.