Cadw, agor a dileu ffeiliau'r gyfrifiannell
Ar y sgrin ‘Summary’, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y gwaelod. Er enghraifft:
- I gadw ffeil eich ôl troed presennol: Dewiswch y blwch uchaf, teipiwch enw i'r ffeil rydych chi am ei chadw (e.e., ÔlTroedPresennol1). Dewiswch ‘Save’
- I agor ÔlTroedPresennol1 (neu unrhyw ffeil arall rydych chi wedi'i henwi): Dewiswch y saeth i lawr yn y blwch isaf, dewiswch y ffeil a dewiswch ‘Open’
- I ddileu ffeil, dewiswch hi a dewiswch ‘Delete’.
Pam nad yw'r gyfrifiannell yn gofyn am ddata go iawn?
Bydd rhai cyfrifianellau'n gofyn i ddefnyddwyr am ‘ddata go iawn’, fel faint o nwy a thrydan y maent yn ei ddefnyddio bob blwyddyn, faint o filltiroedd y maent yn ei deithio mewn car, pa mor bell y maent yn hedfan ac ati. Fodd bynnag, mae llawer o ddefnyddwyr wedi'i chael hi'n anodd cael gafael ar y data hyn, a dim ond ‘allyriadau uniongyrchol’ y maent yn cyfrannu atynt, sef tua 20% o gyfanswm yr ôl troed seiliedig ar ddefnydd. Mae'r gyfrifiannell hon yn defnyddio ystadegau cenedlaethol ar gyfer yr achosion mwyaf nodweddiadol, ac yna'n mireinio'r lefel hon drwy ofyn cwestiynau pellach. Fel arfer, bydd y canlyniad yn agos at yr hyn a fyddai'n deillio o ddata go iawn.
Eich aelwyd
Pam cyfrif oedolion a phlant ar yr aelwyd?
Mae'r gyfrifiannell yn rhoi canlyniadau yn seiliedig ar eich allyriadau unigol neu bersonol, a hynny'n uniongyrchol ac yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, caiff incwm yr aelwyd a llawer o'r defnydd o ynni (e.e. system wresogi, y defnydd o gerbyd, y tŷ ei hun, gwasanaethau fel taliadau morgais, ac felly'r cyfrifoldeb am eu hallyriadau) eu rhannu fel arfer. O ganlyniad i hynny, bydd yr allyriadau y pen yn is os bydd mwy o bobl ar yr aelwyd. Mae'r gyfrifiannell yn gofyn i chi nodi pob person, gan gynnwys plant, ar y sgrin ‘Your household’. Y rheswm dros hyn yw bod plant i gyd yn rhan o'r boblogaeth, a gellir ystyried bod eu haelwydydd yn gyfrifol am eu heffaith.
A yw'n werth cael mwy o bobl yn byw yn eich cartref? Beth yw effaith cael mwy o blant?
Un ffordd effeithiol iawn o leihau eich ôl troed carbon personol yw cael mwy o bobl yn byw ar eich aelwyd (e.e. drwy gymryd lojer). Ond nid yw cael plant/mwy o blant yn ffordd dda o leihau eich ôl troed personol. Y rheswm dros hyn yw am fod gwaith cyfrifo wedi dangos bod cael plant yn ychwanegu mwy at eich ôl troed carbon nag unrhyw benderfyniad arall y gallech ei wneud, fwy na thebyg, hyd yn oed os anwybyddir effaith gronnol eu disgynyddion.
Gwresogi ystafelloedd
Ai waliau ceudod neu waliau solet sydd gen i? A oes wal geudod wedi cael ei llenwi??
I gael manylion, ewch i http://www.energysavingtrust.org.uk/cavity-wall-insulation
Ydych chi'n cael trydan gan gyflenwr trydan cwbl adnewyddadwy?
Mae rhai cwmnïau trydan yn cynnig trydan cwbl adnewyddadwy, sy'n golygu y bydd faint o bŵer y byddant yn ei brynu i gyfateb i'r hyn y byddant yn ei gyflenwi i gwsmeriaid o'r grid yn dod o gontractau uniongyrchol â chynhyrchwyr adnewyddadwy. Fodd bynnag, gall cynhyrchwyr adnewyddadwy werthu tystysgrifau ‘REGO’ dros ben (a roddir am bob megawat-awr o ynni anadnewyddadwy a gynhyrchir), a gaiff eu creu ar adegau pan fydd gormod o drydan, i gynhyrchwyr ynni anadnewyddadwy. Felly, mae llawer o dariffau a gaiff eu galw'n dariffau trydan cwbl wyrdd yn golygu cymysgedd o ynni tanwydd ffosil, ynni niwclear ac ynni anadnewyddadwy a gaiff eu prynu ar y farchnad gyfanwerthu ac yna eu ‘labelu’ fel rhai gwyrdd drwy brynu tystysgrifau REGO. Mae cyflenwyr trydan eraill sy'n ‘gwyrddgalchu’, gan gynnwys rhai sy'n honni eu bod yn cyflenwi ynni cwbl adnewyddadwy, yn gwneud hynny drwy brynu tystysgrifau REGO dros ben sydd ar gyfer trydan adnewyddadwy a gafodd ei gynhyrchu beth bynnag ac felly nad yw'n cynyddu'r cyflenwad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://energysavingtrust.org.uk/advice/switching-your-energy-supplier/
Mae'r gyfrifiannell yn ystyried bod ambell gyflenwr cwbl adnewyddadwy (e.e. Ecotricity, Good Energy) yn buddsoddi yn y gallu i gynhyrchu mwy o drydan adnewyddadwy, ac mae rhai hefyd yn cyflenwi nwy gwyrdd sy'n cynnwys rhywfaint o fionwy. Yn y gyfrifiannell, rhagdybir bod trydan cwbl adnewyddadwy yn cynhyrchu llai o allyriadau na thrydan grid arferol. Ar ben hynny, pan fydd defnyddwyr yn gwneud dewisiadau ariannol o blaid ynni adnewyddadwy, bydd hyn yn rhoi arwydd i'r llywodraeth a diwydiant bod angen buddsoddi mwy mewn ynni adnewyddadwy.
Teithio
Nid yw teithio at ddibenion busnes gan ddefnyddio ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi'i gynnwys oherwydd caiff ei gyfrif fel gweithgarwch busnes sydd wedi'i gynnwys o dan Seilwaith.
Sut mae amcangyfrif y defnydd o geir?
Byddwch yn gwybod pa fath o geir sydd gan aelwydydd a faint o filltiroedd y byddant yn eu teithio mewn blwyddyn fel arfer, fwy na thebyg, ond mae'n anoddach dod o hyd i fanylion cerbydau clybiau ceir a cheir pobl eraill a gaiff eu defnyddio wrth rannu lifft. Ar gyfer clybiau ceir a rhannu lifft, rhaid i chi amcangyfrif faint o bobl sydd yn y cerbyd fel arfer. Dylech gyfrif siwrnai mewn tacsi fel lifft.
Sut mae amcangyfrif y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus?
Nid yw siwrneiau gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn siwrneiau a rennir, felly cânt eu dyrannu i'r unigolyn. Nid yw'r gyfrifiannell yn gwahaniaethu rhwng gwahanol ddulliau teithio, ond mae'n ystyried data allyriadau swyddogol wedi'u cyfartaleddu.
Am sawl awr y MIS y byddwch chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer?
Gallai eich siwrneiau wythnosol rheolaidd ar drên fod yn 10 milltir i'r gwaith ac yn ôl, bum diwrnod yr wythnos, a theithio 50 milltir i ymweld â pherthnasau bob penwythnos, gan roi cyfanswm o tua 22 diwrnod y mis × 10 milltir + 4 penwythnos y mis × 50 milltir = 420 milltir y mis ar drên. Bydd trên yn teithio ar gyflymder o 60 i 80 milltir yr awr, sef 70 milltir yr awr ar gyfartaledd, dyweder, felly = chwe awr y mis. Y cyfartaledd yn y DU yw tua phedair awr a hanner y mis.
Am tua sawl awr y FLWYDDYN y byddwch chi'n teithio ar drên, bws, coets neu long?
I rai pobl, bydd y ffigur yn isel, ond i eraill mae'n bosibl y bydd yn uchel (e.e. dwy siwrnai ar drên o Lundain i Gaeredin ac yn ôl, 2 × 14 awr = 28 awr, a bob chwarter i Gaerfaddon, 4 × 3 awr = 12 awr; trên a fferi i Lydaw = 16 awr, siwrneiau amrywiol ar fws a choets = 40 awr; Eurostar i Baris, 8 awr; cyfanswm = 104 awr y flwyddyn.
Hedfan
Pam nad yw'r gyfrifiannell yn defnyddio pellteroedd hediadau cywir?
Mae llawer o gyfrifianellau ar-lein yn rhoi pellteroedd hediadau rhwng meysydd awyr. Rydyn ni wedi penderfynu defnyddio'r dull cyflym a hawdd o ddewis hedfan o'r DU i ardal ar fap o'r byd. Bydd siwrneiau nodweddiadol i'r gwahanol ranbarthau yn ymddangos mewn ffenestri naid. Os byddwch yn hedfan i le penodol lai nag unwaith y flwyddyn, defnyddiwch ffracsiwn degol, e.e. os byddwch yn hedfan i Efrog Newydd (Gogledd-ddwyrain America) tua unwaith bob tair blynedd i ymweld â pherthnasau, rhowch = 0.33.
Incwm
Pam mae incwm yr aelwyd mor bwysig?
Yn y gyfrifiannell, caiff incwm ond ei ddefnyddio i amcangyfrif allyriadau o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd yr unig ffordd arall fyddai cynnwys holiadur manwl ar wariant. Nwyddau a gwasanaethau yw'r categori mwyaf o wariant aelwydydd a'r categori mwyaf o allyriadau, felly mae'n anochel bod incwm yn gwneud cyfraniad pwysig at gyfanswm yr ôl troed carbon.
Beth os byddaf/byddwn yn cynilo neu'n buddsoddi rhywfaint o incwm yr aelwyd?
Bydd rhai pobl yn llwyddo i gynilo rhywfaint o arian yn hytrach na'i wario. Ni fydd yr arian hwn yn diflannu oherwydd bydd sefydliadau ariannol yn ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn gweithgareddau eraill sy'n cynhyrchu allyriadau. Yn y pen draw, gallech hawlio'r holl arian yn ôl a'i wario. Serch hynny, mae'r gyfrifiannell yn rhagdybio bod peidio â gwario'n uniongyrchol yn tueddu i leihau eich allyriadau i raddau.
Nwyddau
Sut y caiff defnydd 'gwyrdd' neu 'heb fod yn wyrdd' ei ystyried?
Mae allyriadau o'r defnydd o nwyddau a gwasanaethau nid yn unig yn dibynnu ar faint o incwm sydd gennych i'w wario, ond hefyd ar y ffordd y caiff yr arian ei wario.
Dyna swyddogaeth y parau o ymddygiadau ‘gwyrdd’ a ‘heb fod yn wyrdd’ bras cyferbyniol a gynigir yn yr adran ar gyfer nwyddau. Er enghraifft, pe baech yn gwario llawer o arian ar ddillad ac yn taflu hen ddillad yn aml, efallai y byddech yn dewis y botwm pellaf i'r dde rhwng ‘Keeping things repaired and maintained’ a ‘Replace often with new things’. Os mai'r math cyferbyniol o ddefnyddiwr ydych chi, ac mai anaml y byddwch yn prynu dillad newydd, efallai y byddech yn dewis y botwm pellaf i'r chwith. Os ydych yn y canol neu'n tueddu i ymddwyn mewn un ffordd neu'r llall, byddech yn dewis y botwm perthnasol.
Seilwaith
Beth yw 'seilwaith' a pham y mae'n elfen mor fawr?
Mewn egwyddor, mae holl economi'r DU, gan gynnwys ei holl fewnforion (yn ogystal â hedfanaeth a morgludiant rhyngwladol) yn bodoli er budd poblogaeth gyfan y DU. O'r safbwynt hwn, mae'r boblogaeth yn gyfrifol ar y cyd am yr allyriadau a gaiff eu cynhyrchu gan yr economi.
Ond ceir rhai allyriadau nad oes modd i ddefnyddwyr eu rheoli'n uniongyrchol. Un rhan bwysig o hyn yw'r holl nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu darparu gan y llywodraeth a'u hariannu drwy drethi. Caiff yr elfen hon ei dyrannu bron yn gyfartal i bob ôl troed personol.
Mae'r elfen seilwaith arall yn ymwneud ag allyriadau na chânt eu rheoli'n uniongyrchol gan ddefnyddwyr na'r llywodraeth ganolog. Mae'n cynnwys prifysgolion, dinasoedd ac awdurdodau lleol, sefydliadau nid er elw, a gweithgareddau busnes nad yw dewisiadau defnyddwyr yn effeithio arnynt.
Mae'r gyfrifiannell yn mynd â'r safbwynt defnydd mor bell â phosibl, ond mae llawer o ddewisiadau corfforaethol y tu hwnt i reolaeth defnyddwyr, felly safbwynt y gyfrifiannell yw y dylid dyrannu rhywfaint o ‘gyfrifoldeb effeithiol’ i'r busnesau eu hunain ac i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'r wladwriaeth. Caiff hyn ei gyfrifo yn yr adran ar gyfer seilwaith.
Crynodeb
Mae'r sgrin ‘Summary’ yn dangos eich ôl troed carbon personol chi ac ôl troed carbon y DU ar gyfartaledd, ynghyd â'r elfennau sy'n rhan ohonynt.s.
Targed
Mae'r gyfrifiannell yn rhoi dau fath o darged lleihau ôl troed carbon: llywodraeth a phersonol. Mae'r sgrin ‘Target’ yn dangos i chi sut i osod targed lleihau carbon personol neu darged lleihau carbon y llywodraeth.
Mae'r targed personol ar ffurf canran ar gyfer lleihau eich ôl troed presennol, a gellir ei osod ar unrhyw lefel. Cofiwch glicio'r botwm ‘Accept footprint’ cyn gosod eich targed lleihau carbon personol.
Mae tri tharged llywodraeth ar gael, sef 30%, 46% a 54%, sef y gostyngiadau canrannol gofynnol i ôl troed carbon seiliedig ar ddefnydd y DU yn 2016-17 fesul person ar gyfartaledd. Yn fras, mae'r gostyngiadau hyn yn gyfwerth â gostyngiadau o 35%, 50% a 57% i'r allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol a bennwyd yng nghyllideb garbon Llywodraeth y DU yn yr ymdrech i'r DU leihau ei allyriadau erbyn 2050.
Datgarboneiddio
Beth yw datgarboneiddio?
Ystyr ‘datgarboneiddio’ yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu gael gwared arnynt o'r economi. Fel arfer, gwneir hyn drwy weithredoedd gan y llywodraeth neu ddiwydiant, fel defnyddio ynni adnewyddadwy neu ynni niwclear yn lle tanwyddau ffosil; tynnu CO2 o'r atmosffer drwy ddulliau dal a storio carbon; gwella effeithlonrwydd ynni diwydiannol a chynhyrchu nwyddau carbon isel fel ceir trydan, a'u cymorthdalu o bosibl. Gallech ddweud bod rhai o'r gweithredoedd ar lefel ddiwydiannol ac ar lefel aelwydydd yn y gyfrifiannell (e.e. inswleiddio'r cartref) hefyd yn llwyddo i ddatgarboneiddio ond, fel arfer, dim ond ar gyfer mesurau lleihau allyriadau ar raddfa fwy nad ydynt yn gysylltiedig ag aelwydydd y caiff y term ei ddefnyddio.
Mae'r sgrin ‘Decarbonisation’ yn cynnig rhai opsiynau a all gyfrannu at leihau eich ôl troed personol drwy ddatgarboneiddio'r economi genedlaethol neu fyd-eang. Gwneir hyn drwy fesurau lleihau allyriadau gan y llywodraeth y talwyd amdanynt gennych chi drwy drethi a/neu wrthbwysiadau carbon y byddwch chi'n talu amdanynt o'ch gwirfodd ond y bydd pobl eraill yn eu rhoi ar waith, a hynny'n aml drwy brosiectau mewn gwledydd sy'n datblygu.
Mae datgarboneiddio ar linell ar wahân yn y crynodeb, a chaiff ei ddidynnu o gyfanswm eich ôl troed personol. Mae'n bosibl y bydd gennych ôl troed negatif yn y pen draw ac y gallwch honni eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon