Beth ydyw?
Datblygwyd Cyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored ar gyfer modiwl Environment: journeys through a changing world a'i nod yw mesur ôl troed carbon seiliedig ar ddefnydd personol rhywun sy'n byw yn y DU (os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU, gweler adnoddau pellach).
Mae'r gyfrifiannell hon yn dechrau â'r holl nwyon tŷ gwydr a gaiff eu hallyrru yn y broses o gyflenwi'r hyn y mae'r DU yn ei ddefnyddio, gan gynnwys yr allyriadau sydd wedi'u hymgorffori mewn mewnforion. Wedyn, mae'n rhannu'r cyfanswm hwn â phoblogaeth y DU er mwyn rhoi'r allyriadau blynyddol cyfartalog y pen.
Fideo: Peter Harper yn esbonio Cyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored
Sut i'w defnyddio
Mae'r gyfrifiannell yn dechrau drwy gymryd yn ganiataol eich bod yn agos at gyfartaledd y DU ym mhob agwedd ar eich ôl troed carbon. Wrth i chi ateb cwestiynau'r gyfrifiannell, bydd yn dangos sut mae eich ymatebion yn newid eich ôl troed carbon o'r cyfartaledd ac, wedyn, pan fyddwch wedi cwblhau'r cwestiynau, bydd yn dangos eich ôl troed carbon presennol ar y sgrin o'r enw Summary.
Byddwch yn gweld nad yw rhai cwestiynau'n cyd-fynd yn union â'ch sefyllfa bersonol a bod opsiynau lle y bydd angen i chi amcangyfrif (neu hyd yn oed ddyfalu). Felly, bydd yn rhaid i chi ddewis atebion neu werthoedd sy'n cyd-fynd â'ch sefyllfa mor agos â phosibl.
Ar ôl i chi gyfrifo eich ôl troed carbon presennol, bydd y sgrin Target yn eich galluogi i osod targed lleihau carbon personol neu darged lleihau carbon y llywodraeth.
Wedyn, gallwch newid eich atebion i weld sut y bydd hyn yn effeithio ar eich ôl troed carbon er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o geisio cyrraedd y targed (e.e. drwy inswleiddio eich cartref, hedfan yn llai aml, neu newid eich deiet).
Mae sgrin ddewisol o'r enw Decarbonisation yn rhoi cyfle i chi leihau eich ôl troed drwy dalu trethi carbon a/neu brynu ‘gwrthbwysiadau carbon gwirfoddol’ er mwyn buddsoddi mewn prosiectau lleihau allyriadau yn y DU neu dramor.
Dylech allu defnyddio'r gyfrifiannell heb eglurhad. Mae symbol (i) wrth ymyl y rhan fwyaf o'r cwestiynau, er mwyn i chi gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd angen canllawiau neu eglurhad pellach ar gyfer rhai sgriniau a chwestiynau (e.e. sut i gadw, agor a dileu ffeiliau'r gyfrifiannell). Ymdrinnir â'r rhain yn y cwestiynau cyffredin (dolen isod).
Yr hyn y gallwch ei wneud â'r wybodaeth a gewch ohoni
- Cael amcangyfrif o'ch ôl troed carbon presennol
- Gweld effaith gwneud newidiadau i'ch ymddygiad yn y cartref, wrth deithio ac o ran eich deiet a'ch defnydd o ynni er mwyn lleihau eich ôl troed carbon presennol
- Gweld i ba raddau y mae eich newidiadau'n cyd-fynd â'ch targed lleihau carbon
- Gweld beth arall y gallwch ei wneud i ddatgarboneiddio eich ôl troed drwy drethi a/neu wrthbwyso carbon
Lansiwch Gyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored (yn agor mewn tab / ffenestr newydd)
Noder bod angen galluogi pob cwci ar rai porwyr er mwyn i'r gyfrifiannell weithio.
Pan gafodd y gyfrifiannell hon ei datblygu, cyfrifwyd mai ôl troed carbon cyfartalog person sy'n byw yn y DU oedd 14.6 tunnell CO2e y flwyddyn. Ers hynny, mae allyriadau o system drydan y DU, allyriadau o rai sectorau eraill ac allyriadau sydd wedi'u hymgorffori mewn mewnforion wedi lleihau wrth i'r DU a gwledydd eraill geisio symud tuag at sero net. Yn ôl ystadegau swyddogol, cyfanswm allyriadau seiliedig ar ddefnydd y DU erbyn 2019 oedd 774 miliwn tunnell CO2e (Ffigur 1) sy'n golygu bod yr ôl troed carbon cyfartalog tua 11.6 tunnell CO2 y pen y flwyddyn. Erbyn 2022, amcangyfrifir bod yr ôl troed cyfartalog wedi lleihau i tua 11.3 tunnell CO2e y pen y flwyddyn.

Fodd bynnag, bydd olion troed carbon yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar eu ffynhonnell. Er enghraifft, ar gyfer Cynulliad Hinsawdd y DU yn 2020, cyfrifodd Mike Berners Lee, sy'n arbenigwr blaenllaw ym maes cyfrifo ôl troed, fod ôl troed carbon cyfartalog y DU yn 12.7 tunnell CO2e y pen (Ffigur 2), ychydig cyn cyfyngiadau symud COVID-19 a arweiniodd at leihad sylweddol mewn allyriadau cyn iddynt gynyddu'n raddol eto.

Felly, bydd gwahanol gyfrifianellau'n rhoi canlyniadau gwahanol yn dibynnu ar eu rhagdybiaethau, eu ffynonellau data a'r hyn y maent yn ei gynnwys. Mae'r gyfrifiannell hon yn ceisio bod yn gynhwysfawr drwy gynnwys effeithiau incwm, y defnydd o nwyddau a gwasanaethau ac allyriadau seilwaith yn ogystal â'r olion troed arferol ar gyfer ynni, bwyd a thrafnidiaeth. Ar gyfer yr erthygl hon, rydym yn defnyddio'r fersiwn gyfredol o'r gyfrifiannell a ddefnyddiwyd ym modiwl U116 (Environment: journeys through a changing world). Caiff ei diweddaru ar gyfer ail fersiwn. .
Dylech drin y gyfrifiannell fel adnodd addysgol y bwriedir iddo allu cael ei ddefnyddio'n gyflym ac yn hawdd ac i archwilio opsiynau ar gyfer lleihau eich ôl troed carbon presennol, yn hytrach na chynhyrchu'r canlyniadau mwyaf manwl gywir.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cwestiynau Cyffredin.
Cyfyngiadau ar y gallu i leihau olion troed carbon personol
Er y gallant gyfrannu, nid yw'n bosibl i unigolion leihau ôl troed carbon y DU i sero net ar eu pen eu hunain. Mae angen gwneud newidiadau mawr i systemau ynni, trafnidiaeth, amgylchedd adeiledig, amaethyddiaeth, gwastraff ac eraill, hyd yn oed os anwybyddir yr allyriadau sydd wedi'u hymgorffori mewn mewnforion na chânt eu datgarboneiddio yn y gwledydd lle y cânt eu cynhyrchu.
Un ffordd o archwilio gwahanol lefelau o newid mawr i seilwaith er mwyn symud ôl troed carbon tiriogaethol y DU tuag at sero net erbyn 2050 yw defnyddio cyfrifiannell carbon Mackay, a ddatblygwyd gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU gyda phedwar partner.
Yn ôl cyfrifiannell Mackay, roedd bron hanner cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol y DU yn 2020 yn deillio o gartrefi, trafnidiaeth ddomestig, a hediadau heb fod yn gysylltiedig â busnes. Er mwyn lleihau'r allyriadau hynny, mae angen i lywodraeth a diwydiant weithredu, yn ogystal ag unigolion. Er enghraifft, mae angen polisïau gan y llywodraeth a chamau gweithredu gan ddiwydiant i gynyddu'r defnydd o bympiau gwres, ac mae angen i ddefnyddwyr fod yn barod i'w mabwysiadu hefyd. Mae allyriadau o fwyd a'r defnydd o nwyddau a gwasanaethau wedi'u cynnwys yng nghyfrifiannell Mackay, ond mae'n anodd gwahanu'r cyfrifoldeb sydd ar unigolion rhag y cyfrifoldeb sydd ar ddiwydiant a'r llywodraeth. Bydd angen i allyriadau eraill gael eu lleihau drwy weithredoedd gan y llywodraeth a diwydiant yn bennaf. Nid yw allyriadau sydd wedi'u hymgorffori mewn mewnforion wedi'u cynnwys.
Beth y dylai sefydliadau addysg a llywodraethau ei wneud?
Dyma farn Peter Harper ar bolisïau sefydliadau addysg uwch a'r llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Nid wyf yn byw yn y DU; a fydd Cyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored yn gweithio i mi?
Mae Cyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n byw yn y DU. Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop, fel Gweriniaeth Iwerddon, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, gogledd a chanolbarth Ffrainc, rhannau gorllewinol o'r Almaen neu ogledd yr Eidal sydd â hinsawdd gaeaf tebyg i'r DU, gallwch ddefnyddio Cyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored.
Os ydych yn byw y tu allan i'r ardaloedd hyn, ni fydd canlyniadau Cyfrifiannell Carbon Y Brifysgol Agored yn gywir, ac mae'n bosibl na fydd rhai cwestiynau yn berthnasol. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio cyfrifiannell ar-lein arall o'r enw Carbonfootprint.com. Dewiswch 'calculate' wedyn 'individual'.
Mwy gan OpenLearn
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr gweithgaredd hon
Adolygwch yr gweithgaredd hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Gweithgaredd hon