Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Adolygu eich tabl

Er mwyn eich helpu i grynhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch myfyrdodau, hoffem i chi ddychwelyd i'r tabl y gwnaethoch ei lunio yn Sesiwn 1.

Gweithgaredd 5.3 Adolygu fy nhabl

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.
Ffigur 5.4

Yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn gwnaethom ddweud bod myfyrio yn ffordd o weithio ar yr hyn rydym yn ei wybod eisoes a'i fod yn cynhyrchu gwybodaeth newydd. Drwy ailedrych ar y tabl a gwblhawyd gennych yn Sesiwn 1 gallwch asesu'r broses fyfyrio hon. Os gwnaethoch arbed copi o'r tabl, cadwch ef wrth law oherwydd bydd ei angen arnoch ar ddiwedd y gweithgaredd hwn.

Edrychwch ar dabl Alana eto er mwyn eich atgoffa.

Tabl 5.2
Sut wyf yn gweld fy hun nawr? Beth sy'n fy ngwneud yn hapus?
  • Triniwr Gwallt
  • Tawel ond pan ddewch i'm hadnabod yn hyderus
  • Penderfynol
  • Siaradus
  • Gwirfoddoli
  • Weithiau rwy'n galw fy hun yn dwp
  • Dilyn fy mreuddwyd
  • Ffrindiau
  • Teulu
  • Dod i'r grŵp Gofalwyr Oedolion Ifanc
  • Chwarae gyda gwallt
  • Gwyliau
Beth ydw i'n fwyaf balch ohono?Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol?
  • Llwyddo mewn gwallt ar Lefel 1
  • Gwirfoddoli
  • Goresgyn ofnau
  • Llwyddiannus
  • Triniwr Gwallt
  • Gwirfoddoli

Fel gyda Sesiwn 1, llenwch y blychau eich yng Ngweithgaredd 5.3 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]  

NEU

Ewch i Weithgaredd 5.3 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp a'ch bod am rannu eich atebion, pan fyddwch wedi cwblhau eich tabl, dylech ei gymharu â'r un a gwblhawyd gennych yn Sesiwn 1.

  • A yw'r un peth?
  • Oes unrhyw newidiadau?

Gall fod yn debyg iawn neu'n wahanol iawn. Mae myfyrio yn broses barhaus na fydd, o reidrwydd, yn esgor ar newidiadau yn syth, ond gall arwain at wahaniaethau bach yn y ffordd rydym yn meddwl amdanom ni'n hunain, ein cynlluniau a'n nodau a ddaw i'r amlwg dros amser.