1.4 Gofynnwch am adborth
Ochr yn ochr â meithrin ymdeimlad o gymuned, bydd angen i chi wirio’n rheolaidd sut mae’r dysgwyr yn datblygu, gwerthuso eu cynnydd trwy ddeunyddiau’r cwrs, a sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo. Bydd angen i chi roi sylw i’r rhai sy’n ymateb yn negyddol, a’r rhai nad ydynt yn ymateb o gwbl, i’w helpu i ddatblygu strategaethau astudio i ddychwelyd i’r trywydd iawn. Gall dulliau adborth ar-lein roi adborth mwy ffurfiannol i diwtoriaid na holiaduron papur traddodiadol (Donovan et al., 2006). Gall arsylwi cymheiriaid gyda chyd-athrawon ar-lein (Jones a Gallen, 2016) fod yn fuddiol iawn i’ch ymarfer addysgu ar-lein hefyd. Byddwn yn archwilio sut gallwch wneud y defnydd gorau o adborth yn Wythnos 8 y cwrs hwn.