2.4 Cysylltiadaeth
Mae’r ddamcaniaeth hon yn ystyried y gormodedd o wybodaeth sydd ar gael ar y we, y gellir ei rhannu o amgylch y byd yn ddisymwth bron yn sgil poblogrwydd cynyddol rhwydweithio cymdeithasol. Mae cysylltiadaeth yn cyfeirio at y gydnabyddiaeth bod ‘popeth yn gysylltiedig â phopeth arall’, sy’n rhan o’r ddamcaniaeth anhrefn. Mae hefyd yn cyfeirio at egwyddorion rhwydweithio, a damcaniaethau cymhlethdod a hunandrefnu, ac mae wedi’i seilio ar y syniad bod ‘y cysylltiadau sy’n ein galluogi i ddysgu mwy yn bwysicach na’n cyflwr gwybod presennol’ (Siemens, 2005).
Mae Siemens yn esbonio trwy ddweud:
‘Mae cysylltiadaeth yn cael ei sbarduno gan y ddealltwriaeth bod penderfyniadau wedi’u seilio ar sylfeini sy’n newid yn gyflym. Mae gwybodaeth newydd yn cael ei chaffael drwy’r amser. Mae’r gallu i wahaniaethu rhwng gwybodaeth bwysig a dibwys yn hollbwysig. Mae’r gallu i sylweddoli pan fydd gwybodaeth newydd yn newid y cyd-destun wedi’i seilio ar benderfyniadau a wnaed ddoe yn allweddol hefyd.’
Yn wahanol i’r damcaniaethau eraill a gyflwynir uchod, mae cysylltiadaeth yn ‘ddamcaniaeth ddysgu ar gyfer yr oes ddigidol’ (Siemens, 2005). Mae hefyd yn fwy newydd ac yn llai sefydledig o ran corff o waith ymchwil. P’un a ydych yn cytuno â’i dadleuon ai peidio, mae cysylltiadaeth yn codi dau gwestiwn pwysig iawn ar gyfer y cwrs hwn: a yw’r rhyngrwyd wedi newid beth yw dysgu mewn ffordd sylfaenol? Ac a yw’r rhyngrwyd yn newid yr hyn y dylai addysg, ac addysgwyr, geisio ei gyflawni?
Gweithgaredd 2 Sut mae damcaniaethau addysgol yn cyd-fynd â’ch addysgu?
Gwnewch nodiadau byr ar y gwahaniaethau rhwng ymddygiadaeth, gwybyddoliaeth, lluniadaeth a chysylltiadaeth. A oes syniadau sy’n bresennol yn eich arferion addysgu presennol? Sut maen nhw’n ymddangos? A yw’r damcaniaethau hyn yn cyd-fynd â’ch profiadau o ddysgu?
Gadael sylw
A chithau’n athro/athrawes, rydych yn debygol o fod yn gyfarwydd â’r damcaniaethau hyn eisoes, ond fe all fod yn ddefnyddiol camu’n ôl ac edrych ar eich arferion addysgu trwy lygad beirniadol. Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i weld lle’r ydych yn defnyddio’r damcaniaethau. Dylai hyn, wrth i chi symud trwy’r cwrs, eich helpu i benderfynu sut y gellir defnyddio’r damcaniaethau yn eich addysgu ar-lein.
Yn y rhan hon, rydych wedi archwilio rhai o’r damcaniaethau sy’n llywio egwyddorion sylfaenol addysgu ar-lein effeithiol. Fodd bynnag, ni ellir addysgu ar-lein heb ddefnyddio technoleg, a dyma’r hyn y byddwch yn canolbwyntio arno nesaf.