Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Adnoddau rhyngweithiol bach sy’n cael effaith fawr

Mae adnoddau sy’n eich galluogi i ychwanegu eitemau rhyngweithiol at dudalennau gwe, fel cymylau geiriau, cwisiau, ac ymarferion llusgo a gollwng, oll ar gael yn rhad ac am ddim ar y rhyngrwyd. Os oes gennych syniad ar gyfer techneg addysgu ar-lein yr hoffech roi cynnig arni gyda’ch dysgwyr, y tebyg yw bod adnodd ar gael yn rhywle i’ch helpu i’w gyflawni.

Awgrym da

Gallai rhai o’r adnoddau hyn ddefnyddio ategion porwr sy’n ychwanegu’r gallu i ddefnyddio technolegau, fel Flash neu Java, i gynhyrchu cynnwys i chi. Os felly, efallai bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi a’ch myfyrwyr fersiynau cyfredol o Flash a Java wedi’u gosod er mwyn i’r gwefannau hyn weithio’n iawn. Mae arweiniad ar hyn ar gael gan Adobe Flash Player a Java. Mae’n werth gwirio p’un a yw’r elfennau rhyngweithiol yn gweithio’n dda ar wahanol fathau o borwyr neu blatfformau. Er enghraifft, a ydynt yn gweithio ar dabled neu ddyfais symudol?

Described image
Ffigur 3 Llun o sgrin platfform gwe-gynadledda