Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Technolegau ar gyfer cyfathrebu cymdeithasol

Described image
Ffigur 5 Rheoli cyflwyno cyfryngau cymdeithasol yn eich gwersi ar-lein

Fel y gwelsoch yn yr adran ar sianeli cefn yn Wythnos 1, a’r drafodaeth ar gysylltiadaeth yn Wythnos 2, gall cyfryngau cymdeithasol gyflawni rôl bwysig wrth addysgu ar-lein. Mae amrywiaeth o adnoddau cyfathrebu cymdeithasol y gellir eu defnyddio wrth addysgu ar-lein, a chan bob un ei fanteision posibl (a’i anfanteision hefyd, weithiau).

Ar brydiau, bydd angen ymagwedd raddol at ddefnyddio adnoddau cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu ar-lein. Efallai y bydd angen mireinio sgiliau rhoi adborth adeiladol mewn amgylchedd cymharol gaeëdig (fel fforwm trafod, gan wneud sylwadau yn gyntaf ar eitem a ddarparwyd gan yr athro/athrawes, ac yna ar eu cyfraniadau ei gilydd yn ddiweddarach) cyn symud i amgylchedd mwy cyhoeddus (Jones a Gallen, 2016). Gellir defnyddio Twitter a YouTube yn effeithiol iawn i ddangos sut gall sylwadau cyhoeddus ‘adeiladol’ newid i gyfeiriad afiach yn rhwydd.

Os hoffech ddarllen mwy am effeithiau cadarnhaol a negyddol defnyddio cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu, mae Haylett (2016) yn casglu ynghyd amrywiaeth o lenyddiaeth ar y pwnc ac yn dod i’r casgliad ei bod yn ymddangos bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith arwyddocaol ar ymgysylltiad myfyrwyr. Fodd bynnag, fe allai fod effeithiau negyddol ar gyrhaeddiad myfyrwyr, o bosibl.