Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Pam y dylwn i fod â diddordeb mewn OER?

Er bod y syniadau wedi cael eu trafod yn flaenorol, codwyd proffil OER yn sylweddol yn 2002 yn sgil lansio menter OpenCourseWare Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Trwy’r cam beiddgar hwn, sicrhaodd MIT fod y deunyddiau o’i gatalog cyfan o gyrsiau ar gael yn rhydd ar-lein (D’Oliveira et al., 2010). Yn yr un flwyddyn, defnyddiodd UNESCO y term Adnoddau Addysgol Agored am y tro cyntaf, ac yna ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, cynhyrchwyd y gyfres gyntaf o drwyddedau Creative Commons (byddwch yn dysgu mwy am Creative Commons yn ddiweddarach yn neunyddiau’r wythnos hon).

Heddiw, mae’r man addysg agored wedi’i feddiannu gan addysgwyr unigol sy’n ailddefnyddio ac yn rhannu deunyddiau, a mentrau addysgol mawr sy’n dehongli ‘agored’ mewn ffyrdd amrywiol. Mae twf cyflym Cyrsiau Ar-lein Enfawr Agored (MOOCs) gan sefydliadau fel FutureLearn, edX, Coursera ac Udacity yn rhan bwysig o hanes addysg agored. Er y gallai’r cyrsiau hyn fod yn ‘agored’ o ran peidio â chyfyngu ar gofrestriad, nid yw’r deunyddiau a ddefnyddir wedi’u trwyddedu’n OER o reidrwydd ac fe allent fod yn ddarostyngedig i hawlfraint. Gellir astudio MOOCs a mathau eraill o ddysgu ar-lein yn fanwl trwy gyrsiau eraill a gynigir gan y Brifysgol Agored. Gweler yr adran ‘camau nesaf’ ar dudalen Casgliad y cwrs.

Described image
Ffigur 1 Logo OER

Un math o OER sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw Open Textbooks. Gall y rhain leihau’r costau sy’n gysylltiedig â chaffael testunau cwrs i ddysgwyr, a gallent gynyddu mynediad at addysg. O ystyried costau uchel addysg a’r heriau sy’n gysylltiedig â darparu addysg i bawb sydd ei heisiau, mae llawer o addysgwyr wedi eu cyffroi ynglŷn â’r syniad o destunau rhad ac am ddim, o ansawdd da, sy’n gallu arbed arian, cael eu cynhyrchu a’u hadolygu ar y cyd, a chael eu teilwra i anghenion dosbarth penodol (Ozdemir a Hendricks, 2017). Mae’n bosibl y gallai gwerslyfrau agored gynyddu bodlonrwydd myfyrwyr hefyd (Pitt, 2015).

Described image
Ffigur 2 Gwerslyfrau agored