Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Myfyrio

Mae’n bwysig myfyrio ar eich ymarfer fel athro/athrawes er mwyn datblygu. Mae hyn yn golygu ystyried a herio’r ffordd rydych yn addysgu yn barhaus. Yn ôl Schön (1987), mae’n ddefnyddiol meddwl am hyn mewn dwy ffordd:

Myfyrio wrth weithredu – meddwl ac ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau wrth i chi addysgu. O ran dysgu ar-lein, fe allai hyn olygu, er enghraifft, gwirio gyda’r myfyrwyr os ydych yn sylwi nad ydynt yn ymateb mewn sesiwn diwtorial ar-lein. Er mwyn gallu myfyrio wrth weithredu, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r sefyllfa’n barhaus. Gallai hyn olygu bod angen i chi wirio ymddygiad myfyrwyr yn rheolaidd, fel p’un a ydynt yn cyfrannu mewn fforymau neu diwtorialau.

Myfyrio ar weithredu – ystyried beth ddigwyddodd yn ddiweddarach mewn modd dyfnach. O ran dysgu ar-lein, gall adolygu adborth gan fyfyrwyr a dadansoddeg fod yn ysgogiad da ar gyfer myfyrio ar weithredu.

Yn ogystal, fe all fod yn werthfawr ystyried sut i gynnwys gweithgareddau yn eich dysgu ar-lein sy’n gofyn i’r myfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu. Dangosodd adolygiad gan Means et al. (2009) fod ‘y dystiolaeth ymchwil sydd ar gael yn awgrymu bod hyrwyddo hunanfyfyrio, hunanreoleiddio a hunanfonitro yn arwain at ddeilliannau dysgu ar-lein mwy cadarnhaol’ (tud. 45). Un enghraifft o hyn fyddai holiadur byr y gall y dysgwyr ei lenwi i gynrychioli eu barn eu hunain am eu dealltwriaeth o’r pwnc, a pha mor dda maent yn credu eu bod yn dysgu. Os byddwch yn egluro i’r dysgwyr y byddwch yn gwirio eu hymatebion, gall hyn roi rhywfaint o ddata i chi hefyd, yn ogystal â bod yn rhan ddefnyddiol o’r profiad dysgu iddyn nhw.