Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut y gwnes i gyrraedd yma?

Cyflwyniad

Pa mor dda rydych yn adnabod eich hun mewn gwirionedd? Bydd y bloc hwn yn eich helpu i feithrin eich hunanymwybyddiaeth ac ystyried eich bywyd drwy eich helpu i adolygu eich profiadau a nodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ohonynt. Mae eich gorffennol wedi eich llywio drwy eich cefndir teuluol, addysg a hyfforddiant, gwaith a gweithgareddau hamdden. Rydych wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau o'ch profiadau – mwy nag a dybiwch fwy na thebyg – a byddwch wedi datblygu nodweddion a galluoedd sy'n eich helpu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac ymateb i heriau gwahanol.

Mae'r gweithgareddau sy'n dilyn yn gofyn i chi feddwl am gyfres o gwestiynau i'ch helpu i adolygu eich sefyllfa bresennol. Maent yn cynnig ffyrdd gwahanol o ystyried sut berson ydych a'r hyn y gallwch ei wneud. Bob hyn a hyn, gofynnir i chi nodi eich atebion. Mae'r cwestiynau fel a ganlyn:

  • Pwy ydw i?
  • Pa rolau sydd gennyf mewn bywyd?
  • Pa brofiadau dysgu rwyf wedi'u cael?
  • Beth yw fy mhrif gyflawniadau?
  • Pa ffactorau sy'n fy helpu ac yn fy llesteirio?
  • Beth yw fy nghryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau?

Drwy ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, dylech gael syniad mwy realistig o'r hyn rydych yn ei wybod, yr hyn y gallwch ei wneud a'ch cryfderau. Mewn geiriau eraill, byddwch yn dysgu mwy am eich galluoedd – eich gallu i wneud rhywbeth. Mae galluoedd yn cynnwys eich sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau. Y gobaith yw y bydd y pethau y byddwch yn eu dysgu amdanoch chi eich hun yn rhoi mwy o hyder i chi. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dysgu bod ganddynt lawer mwy i'w gynnig nag yr oeddent yn ei dybio'n wreiddiol. Ar y cam hwn, dylech ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn ei wybod a'r hyn y gallwch ei wneud, yn hytrach nag unrhyw wybodaeth a sgiliau nad ydych yn meddu arnynt. Cofiwch y gall fod gennych botensial mewn sawl maes nad yw wedi'i ddatblygu eto am ryw reswm neu'i gilydd.