Nid oes unrhyw amheuaeth bod y byd yn wynebu argyfwng yr hinsawdd sylweddol a chymhleth. Mae trafodaethau presennol o fewn Troseddeg yn mabwysiadu safbwynt Gwyrdd ac mae hyn yn cyflwyno'r prif ddulliau damcaniaethol o fewn Troseddeg Werdd i fyfyrwyr, gyda phwyslais penodol ar safbwyntiau rhyngwladol ac atebion i argyfwng yr hinsawdd.
Yn ogystal, mae Dr Lowri Cunnington Wynn yn cyflwyno cysyniadau ‘difrod amgylcheddol’ yn erbyn ‘cyfraith amgylcheddol’.
Mae Troseddeg Werdd yn ganolog i ddealltwriaeth myfyrwyr o fyd sy'n newid, ac mae'r sesiwn hon yn archwilio'r gyd-ddibyniaeth gymhleth rhwng pobl, natur, yr hinsawdd sy'n newid a'r berthynas â difrod a throsedd.
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ewch i'r cyflwyniad a ddefnyddir gan Dr Lowri Cunnington Wynn yma - Green Criminology - Presentation.
Cyfres o weminarau: 'Heriau 2030'
Cyfres o weminarau sy'n edrych ar broblemau'r dyfodol o safbwynt amrywiaeth o bynciau fel Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Hanes a Busnes.
Mewn partneriaeth â Channel Talent, nod Prifysgol Aberystwyth yw rhoi cipolwg i chi ar ddulliau addysgu ac ymchwil darlithwyr wrth drafod y problemau y bydd y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod y degawd nesaf.
Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon