Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sesiwn Blasu: Astroffiseg - Archwilio'r Gofod

Diweddarwyd Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021

Yn Archwilio'r Gofod – Blas ar Astroffiseg, bydd ffisegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn trafod y ffordd rydym yn gweithio ar ymgyrchoedd archwilio'r gofod presennol ac yn y dyfodol.

Mae ffisegwyr wrth wraidd ein dealltwriaeth o'r bydysawd a'n lle ynddo; o'n hamgylchedd lleol yma ar y Ddaear i Gysawd yr Haul a'r ddealltwriaeth o ffynhonnell bywyd – ein seren yr Haul – yr holl ffordd allan i archwiliadau pellgyrhaeddol o systemau pellach.

Mae'r sesiwn hon yn edrych ar ychydig o'r gwaith ymchwil y mae ffisegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan ohono a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â'r gwaith ymchwil cyffrous hwn.

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?