Beth yw Barod ar gyfer y Brifysgol?
Mae Barod ar gyfer y Brifysgol yn wefan i helpu eich myfyrwyr i gychwyn arni gydag addysg uwch. Cefnogir y safle gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gasgliad o adnoddau o bob prifysgol yng Nghymru i helpu eich myfyrwyr ganfod ai prifysgol yw’r dewis cywir iddynt, ac i gynllunio eu camau nesaf.
Sut all myfyrwyr ei gyrchu?
Mae’r safle ar gael i unrhyw un drwy'r dolenni hyn:
A oes angen cyfrif mewngofnodi ar fy myfyrwyr?
Nid oes angen mewngofnodi i gyrchu’r adnoddau. Gall myfyrwyr bori pan fydd angen cymorth a chyngor arnynt. Efallai y bydd myfyrwyr yn elwa o greu cyfrif OpenLearn am ddim lle gallant gyrchu mwy o nodweddion a dilyn eu dilyniant ar gyrsiau, ond nid yw hyn yn hanfodol i gyrchu’r adnoddau.
Archwiliwch bynciau
Mae gan y safle adnoddau sy’n cefnogi myfyrwyr drwy wahanol gyfnodau’r newid mawr hwn mewn bywyd - o’u harwain drwy’r broses o wneud cais, i addasu i fywyd myfyriwr a sgiliau astudio addysg uwch. Gall myfyrwyr bori am gefnogaeth ynghylch y themâu canlynol:
- Gwneud cais i'r brifysgol
- Bywyd myfyrwyr
- Cyngor am arian
- Sgiliau astudio
- Llesiant ac iechyd meddwl
- Cefnogaeth ychwanegol
- Astudio yn Gymraeg
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau am feysydd astudio.
Porwch drwy’r hwb yn Gymraeg neu Saesneg
Defnyddiwch y botwm ar y dudalen flaen i newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon