Dyma grynodeb o rai o'r geiriau allweddol cyffredin mewn teitlau traethodau.
Dadansoddi
Mae'n gofyn am ateb sy'n datgymalu syniad, cysyniad neu ddatganiad er mwyn ystyried yr holl ffactorau y mae'n eu cynnwys. Dylai atebion o'r fath fod yn fethodolegol iawn a chael eu trefnu'n rhesymegol.
Cymharu
Mae'n gofyn am ateb sy'n gosod eitemau ochr yn ochr â'i gilydd ac yn dangos yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhyngddynt. Disgwylir ateb cytbwys (teg, gwrthrychol).
Ystyried
Mae'n gofyn am ateb lle mae'r myfyriwr yn disgrifio ac yn rhoi ei farn ar y pwnc.
Cyferbynnu
Mae'n gofyn am ateb sy'n nodi'r gwahaniaeth rhwng y ddwy eitem yn unig.
Diffinio
Mae'n gofyn am ateb sy'n esbonio union ystyr cysyniad.
Disgrifio
Mae'n gofyn am ateb sy'n dweud sut beth yw rhywbeth, sut mae'n gweithio, ac ati.
Trafod
Mae'n gofyn am ateb sy'n esbonio eitem neu gysyniad ac yna'n rhoi manylion amdano gyda gwybodaeth ategol, enghreifftiau, pwyntiau o blaid ac yn erbyn, ac esboniadau o'r ffeithiau a gyflwynwyd. Mae'n bwysig rhoi dwy ochr y ddadl a dod i gasgliad.
Gwerthuso/Asesu
Mae'n gofyn am ateb sy'n penderfynu ac yn esbonio pa mor wych, gwerthfawr neu bwysig yw rhywbeth. Dylai'r farn gael ei chefnogi gan drafodaeth o'r dystiolaeth neu'r rhesymeg dan sylw.
Egluro
Mae'n gofyn am ateb sy'n cynnig esboniad eithaf manwl a chywir o syniad neu egwyddor, neu set o resymau dros sefyllfa neu agwedd.
Archwilio
Mae'n gofyn am ateb sy'n astudio'r pwnc yn drwyadl ac yn ei ystyried o amrywiaeth o safbwyntiau.
Dangos
Mae'n gofyn am ateb sy'n astudio'r pwnc yn drwyadl ac yn ei ystyried o amrywiaeth o safbwyntiau.
Datgan
Mae'n gofyn am ateb sy'n mynegi'r pwyntiau perthnasol yn gryno ac yn glir heb drafodaeth hirfaith na mân fanylion.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Wrecsam ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr gweithgaredd hon
Adolygwch yr gweithgaredd hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Gweithgaredd hon